Bryniau Khasia
Ardal o fryniau sy'n rhan o gadwyn Garo-Khasi yn nhalaith Meghalaya, gogledd-ddwyrain India, yw Bryniau Khasia (neu Bryniau Khasi). Mae'r bryniau, sy'n gorwedd am y ffin â Bangladesh, yn orchuddiedig â choedwigoedd isdrofannol ac yn gorwedd i'r de-orllewin o Shillong, prifddinas Meghalaya.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Meghalaya |
Gwlad | India |
Uwch y môr | 1,200 metr |
Cyfesurynnau | 25.58°N 91.63°E |
Amlygrwydd | 1,999 metr |
Cadwyn fynydd | Patkai |
Preswylir y bryniau gan y bobl Khasi lleol; gelwir yr ardal yn Fryniau Khasia ar eu hôl. Yng nghyfnod y Raj Brydeinig, rhennid yr ardal yn sawl teyrnas fechan led-annibynnol yn yr hyn a elwir yn Wladwriaethau Bryniau Khasi/Khasia.
Denodd yr ardal genhadwyr o Gymru yn ail hanner y 19eg ganrif - cyrhaeddodd y cenhadwr Methodus Calfinaidd cyntaf yn 1841 - ac yn enwedig yn y 1910au fel un o sgileffeithiau Diwygiad 1904-1905 yng Nghymru, ac mewn canlyniad mae canran uchel o'r trigolion yn Gristnogion.
Cyfrifir un o drefi Bryniau Khasia, sef Cherrapunji, yn un o'r lleoedd gwlypaf yn y byd.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Welshrevival.org Archifwyd 2008-11-23 yn y Peiriant Wayback Adolygiad o'r llyfr The Revival in the Khasia Hills gan Mrs John Roberts