Mae Meghalaya yn dalaith fechan yng ngogledd-ddwyrain India. Ystyr yr enw "Meghalaya" yn Hindi a Sanskrit yw "Cartref y Cymylau". Mae'r dalaith tua 300 km o hyd o'r gorllewin i'r dwyrain a thua 100 km o'r gogledd i'r de. Yn 2000 roedd y boblogaeth yn 2,175,000. Mae'r dalaith yn ffinio ar Assam yn y gogledd a Bangladesh yn y de. Shillong yw'r brifddinas, gyda phoblogaeth o 260,000.

Meghalaya
Mathtalaith India Edit this on Wikidata
PrifddinasShillong Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,211,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 21 Ionawr 1972 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethConrad Sangma Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Garo, Khasi Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIndia Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd22,429 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAssam, Sylhet Division Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau25.57°N 91.88°E Edit this on Wikidata
IN-ML Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolMeghalaya Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholMeghalaya Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethTathagata Roy Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Meghalaya Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethConrad Sangma Edit this on Wikidata
Map
Mynegai Datblygiad Dynol0.585 Edit this on Wikidata

Mae tua thraean o'r dalaith yn goedwig, sy'n cynnal amrywiaeth ddiddorol o blanhigion, adar ac anifeiliaid.

Ffurfiwyd taliaith Meghalaya ar 21 Ionawr 1972 trwy gyfuno dwy ardal oedd cynt yn rhan o dalaith Assam: Bryniau Khasia a Jaintia Unedig a Bryniau Garo. Mae tua 85% o boblogaeth y dalaith yn bobl lwythol; y Khasi yw'r grŵp mwyaf. Cristionogaeth yw'r grefydd fwyaf yn y dalaith, sy'n un o dair talaith yn India lle mae Cristionogion yn y mwyafrif.

Meghalaya yw'r dalaith wlypaf yn India, gyda 1200 cm o law y flwyddyn mewn ambell ardal. Tref Cherrapunji ym Mryniau Khasia sy'n dal record y byd am y cyfanswm mwyaf o law mewn mis.

Lleoliad Meghalaya yn India


Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliDaman a DiuDelhiJammu a KashmirLakshadweepPuducherry