Brython Shag

band roc Cymraeg o Blaenau Ffestiniog

Grŵp o ardal Blaenau Ffestiniog yw Brython Shag. Mae'r band yn cynnwys aelodau bandiau blaenorol o Flaenau Ffestiniog - Ceri Cunnington oedd prif leisydd Anweledig a'r cerddor a'r cyfansoddwr unigol, Gai Toms. Broliant y grŵp oedd; "O lwch hen fandiau Stiniog, ffurfiwyd un newydd... a ma hein yn mynd i godi'r to, o ddifri mo!" [1]

Brython Shag

Maent yn recordio caneuon ar label Recordiau Sbensh. Cyhoeddwyd albwm ym mis Mawrth 2016. Maent hefyd wedi ymddangos ar S4C gan gynnwys ar raglen miwsig Cymraeg, Ochr1 gan gynnwys Teyrnged i'r Crys-T,[2] a cân Dwnsia Ne Granda.[3]

Caneuon

golygu

Ymysg ei caneuon mae Pobl Gorllewinol Hapus[4] a ryddhawd ym mis Gorffennaf 2017. Mae eu caneuon hefyd yn ymwneud gyda bro eu mebyd, megis Blaenau a Port [5] sy'n cyfeirio at y berthynas a'r tyndra sydd rhwng y ddau drefn gyfagos, Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog.

Blaenau a Port
Rhai ohonom dal yn ifanc rhai yn brysur mynd yn hen
Rhai yn lygod mawr ac yn rhedeg at y linell wen

Wedi tyfu fyny, a petha fod i neud sens
Cyfiawnder y byd dal i eistedd ar y ffens

Beth bynnag am hyn, waeth i ni greu lot o sbort
Dim otch os ti o Blaenau, dim otch os ti o Port

Mae llwythi’n meddwl y gwaetha meddwl bo ni’n casau
Llwyth yn pori yn niwl y mynydd, llwyth yn yr haul

Rhai mewn 'Jack boots Magi Thatcher'
Rhai yn 'bryfid ar y wal'
Tap a ffenest Ship n Castle
Codi'n gilydd off y llawr.

Disgograffi

golygu

Ceir disgograffi o ganeuon y band ar wefan BBC Radio Cymru.[6]

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
Chwiliwch am Brython Shag
yn Wiciadur.