Recordiau Sbensh
Label Recordiau Cymreig
Label recordiau yw Recordiau Sbensh sydd wedi ei lleoli y ardal Blaenau Ffestiniog.
Math | label recordio |
---|---|
Sefydlwyd | 2008 |
Gwefan | http://sbensh.com |
Stiwdio
golyguSefydlwyd y label yn 2008. Mae Recordiau Sbensh yn y broses (2020) o drosi hen festri capel Bethel, Bro Ffestiniog i stiwido recordio a gofod ymarfer. Er hyn, mae modd gwneud recordiad o safon yma. Bydd y stiwdio recordio ac ymarfer, maes o law yn cynnwys cegin, toilet a swyddfa newydd.[1]
Ystyr y gair "sbensh" yw 'twll dan grisiau', neu lle bychan i gadw pethau.[2]
Artistiaid
golyguYmysg yr artistiaid sydd wedi recordio ar label Recordiau Sbensh, mae Gai Toms a Brython Shag.[3]. Gellir gwrando ar Gwalia gan Gai Toms ac Alys Williams ar dudalen Bandcamp Recordiau Sbensh.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.sbensh.com/
- ↑ sbench. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
- ↑ https://www.discogs.com/label/291722-Recordiau-Sbensh
- ↑ https://sbensh.bandcamp.com/