Mae budesonid yn feddyginiaeth corticosteroid sy'n cael ei ddefnyddio i drin asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chyflyrau eraill[1].

Budesonid
Math o gyfrwngpar o enantiomerau Edit this on Wikidata
Mathmeddyginiaeth, LSM-1835 Edit this on Wikidata
Màs430.235539 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₂₅h₃₄o₆ edit this on wikidata
Enw WHOBudesonide edit this on wikidata
Clefydau i'w trinLlid briwiol y coluddyn, microscopic colitis, colitis, llid briwiol y coluddyn, asthma, clefyd crohn edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd unol daleithiau america b edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Budesonid
Symbicort paratoad cyfansawdd sy'n cynnwys budesonid
Math o gyfrwngpar o enantiomerau Edit this on Wikidata
Mathmeddyginiaeth, LSM-1835 Edit this on Wikidata
Màs430.235539 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₂₅h₃₄o₆ edit this on wikidata
Enw WHOBudesonide edit this on wikidata
Clefydau i'w trinLlid briwiol y coluddyn, microscopic colitis, colitis, llid briwiol y coluddyn, asthma, clefyd crohn edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd unol daleithiau america b edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnydd

golygu

Mae budesonid yn cael ei ddefnyddio ar ffurf capsiwl rhyddhad araf i drin effeithiau clefyd Crhon[2]; fel enema i drin colitis briwiol ac fel mewnanadlydd i atal pyliau o asthma. Fel chwistrellydd trwynol mae'n cael ei ddefnyddio i drin rhinitis alergedd ac ar gyfer trin polypau trwynol .

Sgil effeithiau

golygu

Mae sgil effeithiau cyffredin gyda'r ffurfiau anadlu yn cynnwys heintiau anadlol, peswch, a chur pen. Mae sgil effeithiau cyffredin gyda'r tabledi yn cynnwys teimlo'n flinedig, chwydu a phoenau yn y cymylau. Mae sgil effeithiau difrifol yn cynnwys risg gynyddol o haint, colli cryfder esgyrn, a chataractau. Gall defnydd hirdymor o'r ffurfiau trwy'r genau achosi annigonolrwydd adrenal gan hynny gall atal y driniaeth yn sydyn wedi defnydd hirdymor fod yn beryglus. Mae'r ffurfiau anadlu yn gyffredinol ddiogel yn ystod beichiogrwydd.

Cafodd budesonid ei phatent cyntaf ym 1973. Dechreuwyd ei defnyddio'n fasnachol fel meddyginiaeth asthma ym 1981. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.

Argaeledd

golygu

Mae angen rhagnodyn gan weithiwr meddygol cymwys i gael budesonid yn y DU. Mae ar gael fel cyffur generig. Mae'n cael ei werthu o dan yr enwau brand [3]:

  • Budelin
  • Budenofalk
  • Entocort
  • Novolizer
  • Pulmicort
  • Rhinocort aqua

Mae hefyd ar gael fel rhan o'r paratoad cyfansawdd Symbicort.

Cyfeiriadau

golygu
  1. NICE/BNF Budesonide adalwyd 12 Mawrth 2018
  2. Drugs.Com Budesonide adalwyd 12 Mawrth 2018
  3. BMA New Guide to Medicine & Drugs, Cyhoeddwyd gan DK ar 2 Chwefror 2015; Budesonide; tud 178


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!