Buffy Williams

Gwleidydd Cymreig ac aelod o'r Senedd

Aelod o'r Senedd dros Rhondda ers Mai 2021 yw Elizabeth "Buffy" Williams (ganwyd Kerslake, 1 Tachwedd 1976).[1]

Buffy Williams
Ganwyd1 Tachwedd 1976 Edit this on Wikidata
Trewiliam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 6ed Senedd Cymru Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLlafur Cymru Edit this on Wikidata

Enillodd Williams sedd Rhondda yn etholiadau’r Senedd yn 2021, gan drechu cyn arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.[2]

Cafodd Williams ei geni yn Nhrewiliam, Rhondda Cynon Taf. Mae hi'n gweithio fel rheolydd Canolfan Pentre.[3]

Ym mis Mawrth 2021, enwebodd y blaid Lafur Williams ar gyfer gwobr Llywodraeth Cymru, Gwobrau St David, ar ôl iddi gael ei dewis yn ymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Senedd. Beirniadwyd y penderfyniad gan y Ceidwadwyr.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Morris, Steven (7 Mai 2021). "Labour makes big gains in Wales defeating ex-Plaid Cymru leader". theguardian.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Mai 2021.
  2. "Etholiad 2021: Llafur yn cadw seddi pwysig ac yn cipio'r Rhondda". BBC Cymru Fyw. 8 Mai 2021. Cyrchwyd 9 Mai 2021.
  3. "Elizabeth (Buffy) Williams and Canolfan Pentre". St David Awards. 9 Chwefror 2021. Cyrchwyd 8 Mai 2021.
  4. James Williams (23 Mawrth 2021). "Labour candidates for St David Awards 'inappropriate'". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Mai 2021.