Gwleidydd o Gymru a chyn-arweinydd Plaid Cymru yw Leanne Wood (ganed 13 Rhagfyr 1971). Bu'n cynrychioli Plaid Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru dros Ranbarth Canol De Cymru rhwng 2003 a 2016. Cipiodd sedd y Rhondda yn etholiad y Cynulliad, 2016 ond ni chafodd ei hail-ethol yn Etholiad Senedd Cymru, 2021. Bu'n Weinidog yr Wrthblaid dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ac yn llefarydd Plaid Cymru ar Dai ac Adfywio.

Leanne Wood
Wood yn 2016
Arweinydd Plaid Cymru
Yn ei swydd
16 Mawrth 2012 – 28 Medi 2018
ArlywyddDafydd Wigley
DirprwyElin Jones
CadeiryddHelen Mary Jones
Dafydd Trystan Davies
Alun Ffred Jones
Rhagflaenwyd ganIeuan Wyn Jones
Dilynwyd ganAdam Price
Arweinydd yr Wrthblaid yn y Cynulliad
Yn ei swydd
5 Mai 2016 – 14 Hydref 2016
TeyrnElizabeth II
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganAndrew R. T. Davies
Dilynwyd ganAndrew R. T. Davies [1]
Aelod o Senedd Cymru
dros Rhondda
Yn ei swydd
6 Mai 2016 – 29 Ebrill 2021
Rhagflaenwyd ganLeighton Andrews
Dilynwyd ganBuffy Williams
Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
dros Rhanbarth Canol De Cymru
Yn ei swydd
1 Mai 2003 – 6 Ebrill 2016
Rhagflaenwyd ganPauline Jarman
Dilynwyd ganNeil McEvoy
Manylion personol
Ganwyd (1971-12-13) 13 Rhagfyr 1971 (52 oed)
Llwynypia
CenedligrwyddBaner Cymru Cymru
Plaid wleidyddolPlaid Cymru
PriodIan Brown
Plant1
Alma materPrifysgol Morgannwg
GwefanGwefan swyddogol

Fe'i ganed yn Llwynypia yn y Rhondda. Mae hi'n weriniaethwr ac yn sosialydd o argyhoeddiad ac fe ddysgodd Cymraeg fel oedolyn. Mae hi hefyd yn un o Is-lywyddion Anrhydeddus Searchlight Cymru.

Gorfodwyd iddi adael siambr y cynulliad ar ôl iddi gyfeirio at frenhines y DU wrth ei henw personol, sef Mrs Windsor, yn hytrach na "The Queen", a hynny oherwydd ei daliadau gwleidyddol fel gweriniaethwraig Gymreig.[2]

Arweinyddiaeth Plaid Cymru

golygu

Fe etholwyd Leanne Wood fel arweinydd Plaid Cymru ar Fawrth 15fed 2012, gan guro Dafydd Elis Thomas ac Elin Jones. Seiliwyd ei hymgyrch ar y cysyniad o 'wir annibyniaeth'[3]. Cafwyd her i arweinyddiaeth Leanne Wood yng Ngorffennaf 2018, gyda Rhun ap Iorwerth ac Adam Price yn sefyll i fod yna arweinydd newydd.[4]. Cafwyd ymgyrch etholiadol gan y tri ymgeisydd yn ystod Awst a Medi. Cyhoeddwyd mai Adam Price fyddai'r arweinydd newydd ar 28 Medi 2018. Enillodd Price 3,481 pleidlais yn y rownd gyntaf, gyda ap Iorwerth yn ail gyda 1,961 pleidlais a Wood yn drydydd gyda 1,286. Yn yr ail rownd, cafodd Price 2,863 pleidlais, a derbyniodd ap Iorwerth 1,613 pleidlais.[5]

Dadl deledu, 2015

golygu

Ar yr ail o Ebrill 2015, cymerodd Leanne ran mewn dadl rhwng 7 o wleidyddion ac a ddarlledwyd ar brif sianeli teledu gwledydd Prydain.

Etholiad 2021

golygu

Collodd Wood ei sedd yn Rhondda yn yr etholiadau Seneddol 2021. Ar ôl buddugoliaeth Buffy Williams (Plaid Llafur), talodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, teyrnged i “ymroddiad a dewrder” Leanne Wood.[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwag 14 Hydref 2016 – 6 Ebrill 2017
  2. BBC News
  3. http://cy.leannewood.org[dolen farw]
  4. Rhun ap Iorwerth ac Adam Price i herio Leanne Wood , BBC Cymru Fyw, 4 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 28 Medi 2018.
  5. Ethol Adam Price fel arweinydd newydd Plaid Cymru , BBC Cymru Fyw, 28 Medi 2018.
  6. "Teyrnged Chris Bryant i Leanne Wood ar ôl dweud ei bod hi ac Adam Price "wedi chwythu'u plwc"". golwg360. Cyrchwyd 9 Mai 2021.

Dolenni allanol

golygu
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Leighton Andrews
Aelod Cynulliad dros Rhondda
20162021
Olynydd:
Buffy Williams
Rhagflaenydd:
Pauline Jarman
Aelod Cynulliad dros Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros Ganol De Cymru
20032016
Olynydd:
Neil McEvoy
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Ieuan Wyn Jones
Arweinydd Plaid Cymru
20122018
Olynydd:
Adam Price