Bukovyna

(Ailgyfeiriad o Bukovina)

Rhanbarth hanesyddol yn Nwyrain Ewrop yw Bukovyna (Wcreineg: Буковина, Rwmaneg: Bucovina, Pwyleg: Bukowina, Almaeneg: Bukowina neu Buchenland) a leolir yng ngogledd-dwyrain Mynyddoedd Carpathia, ar y ffin rhwng Wcráin a Rwmania.

Bukovyna
Map o Bukovyna (oren) o fewn ffiniau presennol Rwmania ac Wcráin.
Mathrhanbarth, Ukrainian historical regions, Historical regions of Romania Edit this on Wikidata
PrifddinasChernivtsi Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,870, 800,098 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Rwmania Rwmania
Baner Wcráin Wcráin
Cyfesurynnau48°N 26°E Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd gany Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd Edit this on Wikidata

Yn yr Oesoedd Canol, gwladychwyd yr ardal gan Foldafiaid (Rwmaniaid) a Rwtheniaid, a daeth dan reolaeth Tywysogaeth Moldafia yn y 14g. Bu Suceava, yn ne'r ardal, yn brifddinas Moldafia o'r 14g hyd at ganol yr 16g, pryd ddaeth Moldafia yn ddarostyngedig i'r Ymerodraeth Otomanaidd.

Ym 1774 ildiodd yr Otomaniaid y diriogaeth i'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Cafodd Bukowina, neu Buchenland, ei gweinyddu fel ardal filwrol nes iddi gael ei hymgorffori ym 1786 yn rhan o Deyrnas Galisia a Lodomeria—un o diroedd coronog y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd (Ymerodraeth Awstria wedi 1804)—fel Dosbarth Bukowina neu Ddosbarth Czernowitz. Ym 1849, dyrchafwyd y rhanbarth yn Ddugiaeth Bukowina, a ddatganwyd yn un o diroedd coronog Cisleithania yn Awstria-Hwngari (1867–1918). Câi Bukovyna ei hystyried yn rhanbarth strategol bwysig ar y ffordd drwy Fynyddoedd Carpathia o Galisia i Dransylfania, ac aeth yr Awstriaid ati i ddatblygu'r brif ddinas, Czernowitz (bellach Chernivtsi, Wcráin), yn ganolfan fasnach ac addysg. Ymdrechodd yr Awstriaid i gadw'r heddwch rhwng y Rwtheniaid, neu Wcreiniaid, yn y gogledd a'r Rwmaniaid yn y de, a'r lleiafrifoedd ethnig—Almaenwyr, Pwyliaid, ac Iddewon—yn yr ardaloedd trefol.[1]

Wedi i Dywysogaeth Rwmania sicrhau ei hannibyniaeth oddi ar yr Ymerodraeth Otomanaidd ym 1878, ceisiodd am gyfeddiannu Bukovyna, gan ddadlau bod y rhanbarth yn darddle hanesyddol Tywysogaeth Moldafia ac felly yn rhan annatod o famwlad y Rwmaniaid. Yn sgil cwymp Awstria-Hwngari ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1918, meddiannwyd Bukovyna gan luoedd Teyrnas Rwmania. Er i rai o'r boblogaeth Wcreinaidd geisio ymgorffori eu hardaloedd yn y gogledd yn rhan o Weriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin, llwyddodd Rwmania i ennill rheolaeth dros yr holl ranbarth yn ôl Cytundeb Saint-Germain (1919). Yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, gorfododd y llywodraeth bolisi o Rwmaneiddio'r rhanbarth, gan gynnwys gwahardd yr iaith Wcreineg a'i diwylliant ac erledigaeth Eglwys Uniongred Wcráin.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddiannwyd gogledd Bukovyna gan yr Undeb Sofietaidd ym Mehefin 1940; adenillodd y Rwmaniaid y diriogaeth yn sgil Cyrch Barbarossa (1941). Ailgipiwyd gogledd Bukovyna ym 1944, ac ymgorfforwyd yr honno—Oblast Chernivtsi—yn rhan o Weriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin yn swyddogol ym 1947.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Bukovina. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Hydref 2022.