Cyrch Barbarossa
Cyrch Barbarossa (Almaeneg: Unternehmen Barbarossa) oedd yr enw a roddwyd i ymosodiad yr Almaen ar yr Undeb Sofietaidd ar 22 Mehefin 1941 yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Enwyd yr ymgyrch ar ôl yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Ffrederic Barbarossa. Parhaoedd Cyrch Barbarossa ei hun hyd Rhagfyr 1941, ond parhaodd yr ymladd ar y ffrynt dwyreiniol hyd fis Mai 1945, pan ildiodd yr Almaen wedi i'r Fyddin Goch gipio Berlin.
Enghraifft o'r canlynol | gweithrediad milwrol |
---|---|
Dyddiad | 5 Rhagfyr 1941 |
Rhan o | Y Ffrynt Dwyreiniol |
Dechreuwyd | 22 Mehefin 1941 |
Daeth i ben | 5 Rhagfyr 1941 |
Lleoliad | Estonia, Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws, Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin, Moldavian Soviet Socialist Republic, General Government, Lithwania, Latfia, Rwsia Ewropeaidd, Yr Undeb Sofietaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nôd Cyrch Barbarossa oedd meddiannu rhan Ewropeaidd yr Undeb Sofietaidd. Roedd yr ymosodiad yn torri cytundeb heddwch rhwng Adolf Hitler a Joseff Stalin. Ar y cychwyn, enillodd yr Almaenwyr fuddugoliaethau mawr, gan lwyddo i amgylchynu nifer fawr o filwyr Rwsaidd a'u cymryd yn garcharorion. Fodd bynnag, erbyn mis Hydref roedd yr ymosodiadau Almaenig yn cael llai o lwyddiant, yn rhannol oherwydd y mwd oedd wedi dilyn glawogydd yr hydref. Cyhaeddodd yr Almaenwyr hyd gyrion Moscow, ond ni allasant fynd ymhellach. Gwrthododd Hitler ganiatâd iddynt i encilio i safleoedd mwy pwrpasol ar gyfer y gaeaf.
Dioddefodd y ddwy ochr golledion trwm, a dilynwyd yr ymgyrch yma gan frwydrau ar raddfa enfawr yn ystod 1942 a 1943. Yn raddol, gorfodwyd yr Almaenwyr i encilio o Rwsia, ac aeth y Fyddin Goch ymlaen i feddiannu rhan ddwyreiniol yr Almaen.