Rhanbarth hanesyddol sydd heddiw wedi'i lleoli yng nghanolbarth Rwmania yw Transylfania. Gyda mynyddoedd y Carpatiau yn ffiniau naturiol iddi i'r dwyrain ac i'r de. roedd Transylfania hanesyddol yn ymestyn i'r gorllewin hyd at Fynyddoedd Apuseni. Mae'r term hefyd yn cynnwys rhanbarthau hanesyddol Crișana a Maramureș, ac, yn achlysurol, y rhan Rwmanaidd o Banat.

Transylfania
Mathardal hanesyddol Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRwmania Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwmania Rwmania
Arwynebedd100,293 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.7667°N 23.5833°E Edit this on Wikidata
Map

Mae rhanbarth Transylfania yn cael ei adnabod am harddwch y tirwedd Carpataidd a'i chyfoeth o hanes. Mae hefyd yn cynnwys dinasoedd Cluj-Napoca, Brașof, Sibiu, Târgu Mureș a Bistrița.

Mae'r Gorllewin yn aml yn cysylltu Transylfania gyda fampiriaid, oherwydd dylanwad y nofel Dracula gan Bram Stoker a'r nifer o addasiadau ffilm.[1][2][3]

Mewn Rwmaneg, mae'r rhanbarth yn cael ei hadnabod fel Ardeal ([arˈde̯al]) neu Transilvania ([transilˈvani.a]); fel Erdély ([ˈɛrdeːj]) mewn Hwngareg; fel Siebenbürgen ([ˈziːbn̩ˌbʏʁɡn̩] (About this sound listen)) mewn Almaeneg; a Transilvanya ([tɾansilˈvanja]) mewn Tyrceg, er mai Erdel neu Erdelistan oedd yr enw hanesyddol arni.

Daw'r cyfeiriad cynharaf at Transylfania sy'n hysbys heddiw o lawysgrif Lladin canoloesol (1075). Mae'n cyfeirio at yr ardal fel ultra silvam, sy'n golygu 'y tu hwnt i'r goedwig'. Mae Transylfania yn golygu 'ar yr ochr draw i'r coed'. Mae haneswyr Hwngaraidd yn honni bod y ffurf Lladin canoloesol Ultrasylvania, Transsylvania yn ddiweddarach, yn gyfieithiad uniongyrchol o'r ffurf Hwngareg Erdő-elve.[4] Dyna hefyd oedd yr enw amgen mewn Almaeneg überwald (13g–14g) ac Wcreineg Залісся (Zalissia).

Mae'r enw Almaeneg Siebenbürgen yn golygu "saith castell", ar ôl y saith dinas y Sacsoniaid Transylfanaidd yn y rhanbarth. Dyma darddiad enw'r rhanbarth mewn nifer o ieithoedd eraill, fel yr enw Croateg Sedmogradska, yr Bwlgareg Седмиградско (Sedmigradsko), yr enw Pwyleg Siedmiogród a'r enw Wcreineg Семигород (Semyhorod).

Mynyddoedd Apuseni ger Arieșeni, Alba

Cyfeiriadau golygu

  1. "Transylvania Society of Dracula Information". Afn.org. 1995-05-29. Cyrchwyd 2012-07-30.
  2. "Travel Advisory; Lure of Dracula In Transylvania". The New York Times. 1993-08-22.
  3. "Romania Transylvania". Icromania.com. 2007-04-15. Cyrchwyd 2012-07-30.
  4. Engel, Pál (2001). Realm of St. Stephen: History of Medieval Hungary, 895–1526 (International Library of Historical Studies) (Llundain: I.B. Taurus), t.24