Y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd

(Ailgyfeiriad oddi wrth Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd)

Gwladwriaeth Ewropeaidd dan sofraniaeth brenhinllin Awstriaidd Tŷ Hapsbwrg oedd y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd (Almaeneg: Habsburgermonarchie). Lleolwyd ei thiriogaethau yng Nghanolbarth Ewrop yn bennaf, ac yr oedd yn gyfuniad o diroedd etifeddol (Erblande), a fuont ym meddiant Hapsbwrgiaid Awstria ers 1278, a thiroedd annibynnol Breniniaethau Bohemia ac Hwngari, a ymunodd mewn undeb personol anffurfiol â'r Hapsbwrgiaid yn 1526. Endid gwleidyddol unigryw ydoedd, a ffurfiwyd yn raddol drwy briodasau brenhinol ac anghenion rhyngwladol, yn cynnwys hefyd tiriogaethau a goncrwyd ac felly gellir ei ystyried yn ymerodraeth. Nid oedd ganddi gyfansoddiad wleidyddol neu sefydliadau llywodraethol cyfundrefnol ac eithrio'r frenhiniaeth ei hun. Yn y cyfnod 1438–1806, ac eithrio'r ysbaid 1742–45 yn ystod Rhyfel Olyniaeth Awstria, roedd pennaeth Tŷ Hapsbwrg hefyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig, er na chaiff yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ei hun ei hystyried yn rhan o'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd.

Y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd
Habsburgermonarchie  (Almaeneg)
Rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig (yn rhannol)
Undeb personol
1282–1918
  • uwch: Baner yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig (nes 1804)
  • is: Baner sifil y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd (o 1804)
Arfbais ymerodrol
(c. 1790 – c. 1806)
Y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd yn 1789.
Prifddinas
Crefydd Swyddogol:
Yr Eglwys Gatholig Rufeinig
Cydnabuwyd:
Calfiniaeth, Lwtheriaeth, Yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, Iddewiaeth, Wtracaetha
Llywodraeth Brenhiniaeth ffiwdalaidd
Teyrn
 -  1282–1308 Albrecht I, brenin yr Almaen a Rudolf II, dug Awstria
 -  1916-1918 Siarl I, Ymerawdwr Awstria
Canghellor y Wladwriaeth
 -  1753–1793 Wenzel Anton
Cyfnod hanesyddol Y cyfnod modern cynnar/Napoleonig
 -  Cymanfa Augsburg yn rhoddi Dugiaeth Awstria i'r Hapsbwrgiaid. Rhagfyr 1282
 -  Brwydr Fienna 14 Gorffennaf 1683
 -  Rhyfel Olyniaeth Awstria 1740–1748
 -  Rhyfel Awstria Thwrci 1787–1791
 -  Cytundeb Sistova 4 Awst 1791
 -  Chwyldro Aster 31 Hydref 1918
^a Wtracaeth oedd prif grefydd y Tsieciaid, a fe'i cydnabuwyd yn Nheyrnas Bohemia nes ei gwahardd yn 1627.
^b Lladin oedd iaith swyddogol yr Ymerodraeth nes i Almaeneg gymryd ei lle yn 1784.[1]

Gellir olrhain y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd yn ôl i ddiwedd y 13g. Etholwyd Rudolf von Habsburg yn Frenin yr Almaen yn 1273, ac yn 1282 ymgorfforodd dugiaethau Awstria a Styria yn eiddo i'w linach. Yn 1482, enillodd yr Ymerawdwr Maximilian I diroedd yn yr Iseldiroedd drwy etifeddiaeth ei wraig. Bu tiriogaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ar ei hanterth dan reolaeth yr Ymerawdwr Siarl V, a fu hefyd yn Frenin Sbaen a'i threfedigaethau yn y Byd Newydd. Cafodd ei frawd Ferdinand ei ethol yn Frenin Hwngari a Bohemia yn 1526. Yn sgil ymddiorseddiad Siarl V yn 1556, rhennid tiriogaethau'r Hapsbwrgiaid rhwng ei fab Philip II, brenin Sbaen, a Ferdinand a goronwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig. O 1564 i 1665 bu sawl cangen wahanol o'r Hapsbwrgiaid Awstriaidd yn teyrnasu dros tiroedd Awstria, Hwngari a Bohemia, yn ogystal â'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, nes i undeb personol uno tiriogaethau'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Daeth cyff Sbaenaidd y Hapsbwrgiaid i ben yn sgil marwolaeth Siarl II yn 1700.

Yn 1804, pan oedd Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc ar fin diddymu'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, unwyd y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ar ffurf Ymerodraeth Awstria gan Ffransis II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, a ddatganodd ei hun yn Ffransis I, Ymerawdwr Awstria. Yn sgil cyfaddawd 1867 (Almaeneg: Ausgleich, Hwngareg: Kiegyezés) sefydlwyd brenhiniaeth ddeuol Awstria-Hwngari. Daeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd i ben yn 1918 yn sgil methiant y Pwerau Canolog yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Er iddi barhau yn un o bwerau mawrion Ewrop am sawl canrif, ni chafodd ymerodraeth Hapsbwrgiaid Awstria ei chydnabod gan enw ffurfiol, cyffredin. Yr enwau cyfoes amlaf arni oedd "tiroedd Tŷ Hapsbwrg" neu "diroedd yr Ymerawdwr [Glân Rhufeinig]" yn y cyfnod pan oedd pennaeth Hapsbwrgiaid Awstria hefyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig.[2] Oherwydd llinach y teulu brenhinol, a'i lys yn Fienna, cafodd ei galw weithiau gan y trawsenw "Awstria" . Tua 1700, dechreuwyd defnyddio'r term Lladin monarchia austriaca fel enw hwylus.[3] Mae haneswyr modern fel rheol yn cyfeirio ati fel "y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd" neu'r "Ymerodraeth Hapsbwrgaidd".

CyfeiriadauGolygu

  1. C. Brandon Hone, "Smoldering Embers: Czech-German Cultural Competition, 1848–1948" (2010). Prifysgol Talaith Utah.
  2. A. J. P. Taylor, The Habsburg Monarchy 1809–1918 (Llundain: Penguin, 1990 [1948]), t. 11.
  3. Michael Hochedlinger, Austria's Wars of Emergence, 1683-1797 (2003), t. 9.

Darllen pellachGolygu

  • R. J. W. Evans, The Making of the Habsburg Monarchy, 1550–1700: An Interpretation (Rhydychen, 1979).
  • Charles W. Ingrao, The Habsburg Monarchy, 1618–1815 (Caergrawnt, 1994).
  • Robert A. Kann a David V. Zdenek, The Peoples of the Eastern Habsburg Lands, 1526–1918 (Seattle, 1984).
  • Robin Okey, The Habsburg Monarchy: From Enlightenment to Eclipse (Efrog Newydd, 2001).