Burgstall Gegenpoint

Safle hen gastell yn Fürstenfeldbruck yn nhalaith Bafaria yn Yr Almaen yw Burgstall Gegenpoint. Fe'i adeiladwyd tua 1147, ond y sylfeni yn unig sydd yn weladwy heddiw.

Burgstall Gegenpoint
Mathcastell, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirFürstenfeldbruck Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Cyfesurynnau48.1712°N 11.2724°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethcofeb treftadaeth ddiwylliannol yn yr Almaen Edit this on Wikidata
Manylion

Hanes golygu

Crybwyllwyd yr enw “Kekinpiunt” am y tro cyntaf mewn tystysgrif o’r flwyddyn 857 fel enw anheddiad bychan.

Daeth y teulu von Gegenpoint yn bwerus a thua 1147, adeiladwyd y castell lle y trigasant hyd 1340. Er gwaethaf eu pŵer fodd bynnag, nid oes llawer o wybodaeth amdanynt. Ymddengys eu bod yn finisterialwyr (math o bendefigaeth Almaenig) yng ngwasanaeth Harri y Llew, Dug Bafaria.

Erbyn y 13g meddasant gyfran fawr o dir yn y rhanbarth; fodd bynnag, roedd safle'r castell ar y goror rhwng tiroedd y llinach Welf a'r teulu Wittelsbach yn ddiwedd i'r castell.

Ar ôl dirywiad y teulu Welf, daeth y teulu Gegenpoint i gyni a wnaed yn waeth gan hollti'r ystad gan Heinrich von Gegenpoint. Nad oedd ganddynt unrhyw blant.

Yn 1340, gwerthodd Wigand von Eisenhofen —mab-yng-nghyfraith Heinrich— gyfran fawr o’r castell i Abaty Fürstenfeld gerllaw, a oedd yn eiddo i'r teulu Wittelsbach. Er gwaethaf hyn, gwrthododd yr Abaty ddarparu unrhyw ddiogelwch ar gyfer y castell[1].

Darfu llinach Gegenpoint yn 1391 gyda Gunter dem Wat von Gegenpoint, gwyrw olaf y teulu.

Cyn-Gerddi'r Castell golygu

Yn ôl gweithred o 1306, safodd tŵr ynghyd â rhandy yn y ward a phont godi i’r ward allanol. Roedd yr un ddogfen yn sôn am randy, ysgubor, ffynnon, capel y castell, dwy ardd a’r gât dwyreiniol â’i bont godi ei hun yn y ward allanol.

Goroesodd capel “St Nikolaus” yn hwy na’r castell, ac roedd yn dal i gael ei ddefnyddio i gynnal offeren mor hwyr â 1775. Yn 1785, cafodd ei ddymchwel oherwydd ei gyflwr adfeiliedig. Heddiw, mae croes bren fawr yn nodi ei safle.

Mae Swyddfa Wladwriaeth Bafaria ar gyfer Cadwraeth Wrthrychau Hanesyddol yn cofnodi’r adfail fel mittelalterlichen Burgstall (adfail castell canoloesol) gyda’r rhif heneb D 1-7833-0066.[2]

Chwedlau golygu

Yn ôl y chwedl, gellir clywed crio plant trwy wasgu'r glust i'r ddaear. Dywedir i'r rhain fod yn blant i ferched bonheddig a gafodd eu lladd gan eu mamau.[3]

Llyfryddiaeth golygu

  • Clemens Böhne: Die Geschichte der Gegenpoints. Yn: Amperland, Jahrgang 3, 1967, S. 17, 41-42.
  • Ulrich Bigalski: Vom Aufstieg und Niedergang einer bayerischen Adelsfamilie. Yn: Brucker Blätter 1990 (Jahrbuch des Historischen Vereins für die Stadt und den Landkreis Fürstenfeldbruck, Heft 1). Fürstenfeldbruck 1991.
  • Volker Liedke, Peter Weinzierl: Landkreis Fürstenfeldbruck (Denkmäler in Bayern, Band I.12). München 1996´, ISBN 3-87490-574-8.
  • Hans H. Schmidt (Hrsg.): "Versunkene Burgen" im Fünf-Seen-Land zwischen Ammersee und Isar - Historisch-archäologische Rekonstruktionen (Arbeitskreis für Ortsgeschichtsforschung der Würmregion). Gauting 2002.
  • Klaus Köppke: Vermessung des Burgstalls Gegenpoint. Yn: Otto Meißner a Rolf Marquardt (Hrsg.): Brucker Blätter 2004. Jahrbuch des Historischen Vereins für die Stadt und den Landkreis Fürstenfeldbruck. Heft 15. Fürstenfeldbruck 2004, S. 63-67.

Cyfeiriadau golygu

  1. Merkur.online.de
  2. Eintragung Bayerisches Landesamt für Denkmalpflege
  3. 1958. Nicht veröffentlicht. Im Besitz des Kreisheimatpflegers des Landkreises Fürstenfeldbruck.