Burum (band)
Band jazz Cymreig yw Burum. Maent yn arbenigo ac yn adnabyddus am addasu caneuon gwerin ac emynau Cymraeg mewn ffurf jazz. Maent yn perfformio ar draws Cymru, Prydain ac wedi chwarae yn Llydaw. Mae'r aelodau wedi amrywio dros y blynyddoedd.
Aelodau
golygu- Tomos Williams - trwmped - Mae wedi perfformio gyda'r band traddodiadol Cymraeg Fernhill ac yn arwain y band 'Khamira' sydd yn uno cerddorion a cerddoriaeth o'r India gyda jazz ac alawon gwerin Cymraeg, ac mae hefyd yn chwarae yn y pumawd jazz '7Steps' sydd yn perfformio cerddoriaeth Miles Davis. Recordiodd Tomos 'Carn Ingli' yn 2012 - albym o ddeuawdau a triawdau gyda'r delynores deires Llio Rhydderch a Mark O'Connor ar y drymiau. Astudiodd gerddoriaeth Jazz fel myfyriwr ôl-radd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a derbyniodd wobr Cymru Creadigol gan Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2012-2013.
- Daniel Williams - sacsoffon- Mae Daniel yn frawd i Tomos. Magwyd yn ddau Aberystwyth.
- Patrick Rimes - Magwyd ym Methesda ac mae'n chwara amryw o offerynnau (pibau cŵd a ffliwt gyda Burum) ac yn aelod o'r band gwerin Calan.
- Dave Jones - piano ac allweddellau - Magwyd ym Mhort Talbot mae wedi perfformio gyda amryw o gerddorion jazz amwlg Prydain ac wedi cyhoeddi sawl cân.[1]
- Aidan Thorne - Gitâr fâs - wedi ei leoli yng Nghaerdydd, mae Aidan yn aelod o sawl band arall gan gynnwys band ei hun 'Duski' a hefyd Slowly Rolling Camera, Khamira, tuk tuk.
- Mark O'Connor - Drymiau - yn wreiddiol o Hengoed, mae'n perfformio gydag amryw o fandiau a grwpiau cerddorol eraill gan gynnwys, Duski, Burum, Paula Gardiner Trio, Wonderbrass, ac Olion Byw. Mae hefyd yn waith Samba Caerffili a Wonderbrass.
Perfformiadau Nodedig
golygu- Gŵyl Geltaid Ryngwladol An Oriant - roedd Burum yn rhan o arlwy Gymreig yn yr ŵyl o gerddoriaeth a dawns Geltaidd anferth yma yn ninas An Oriant yn Llydaw yn 2018.[2]
- Dewiswyd ei fersiwn nhw o'r gân werin adnabyddus Y Gwydr Glas sy'n deyrnged i'r bardd a'r llenor Nigel Jenkins fel cân Cymru ar gyfer yr Ŵyl Geltaidd Ryngwladol yn An Oriant.[3]
Disgograffi
golyguMae'r grŵp wedi rhyddhau tair CD sy'n cynnwys themâu gwerin, emynol a jazz cyfoes.[4]
- Alawon: The Songs of Welsh Folk (2007)
- Caniadau (2012)
- Llef (2016)
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ davejonesjazz.com
- ↑ https://www.burum.org/single-post/2018/04/09/Lorient-2018
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-30. Cyrchwyd 2018-11-30.
- ↑ https://www.burum.org/cerddoriaeth-music