Mae Fernhill yn fand gwerin, ac yn cynnwys Julie Murphy (llais a sruti) , Christine Cooper (ffidil a llais), Tomos Williams (trwmped a flugelhorn) a Ceri Rhys Matthews (gitar, pibau, ffliwt a llais.

Fernhill yng Ngŵyl Tegeingl: Llun gan Llinos Lanini (www.llinoslanini.com)

Ganwyd Julie Murphy yn Highgate, Lundain,a magwyd yn Romford, Essex. Daeth ei theulu o Blackpool, Swydd Caerhirffryn]]. Aeth i Goleg Celf Maidstone cyn symud i Gymru.[1] Roedd hi'n aelod o'r deuawd Whirling Pope Joan efo Nigel Eaton.[2]

Ganwyd a magwyd Ceri Rhys Matthews yn Treboeth sydd erbyn hyn yn rhan o Abertawe. Astudiodd o gelf yn Maidstone. Mae o'n aelod o Burum ac yn chwarae mewn deuawd efo Christine Cooper.[3].

Mae Tomos Williams hefyd yn aelod o Burum.[4] Mae o'n dod o Aberystwyth ac yn byw yng Nghaerdydd.[5] Gwnaeth o Astudiaethau Americanaiddym Mhrifysgol Nottingham wedyn MA yn Niwylliant a Chymdeithas yng Ngholeg Goldsmiths ym Llundain, ac wedyn Diploma Ôl-raddedig yng Ngherddoriaeth Jazz yng Ngholeg BrenhinolCerddoriaeth a Drama, Caerdydd. Mae hefyd wedi gweithio'n agos gyda'r delynores deires, Llio Rhydderch, y llenor Jon Gower, a nifer o gerddorion a llenorion eraill.[6]

Mae'r enw Fernhill yn tarddu o'r gerdd gan Dylan Thomas.[7]

Cyn-aelodau'r band

golygu

Ganwyd Andy Cutting yn Harrow ar 18 Mawrth 1969. Mae o wedi bod yn aelod o Blowzabella ac wedi gweithio'n rheolaidd efo Chris Wood, Martin Simpson a June Tabor.

Magwyd Jonathan Shorland yn Hampshire ac aeth i Brifysgol Aberystwyth. Mae o wedi recordio albwm efo Ceri Rhys Matthews ar bibellau.[2]

Mae Cass Meurig yn chwarae ffidil a chrwth. Erbyn hyn mae hi'n perfformio mewn deuawd efo Nial Cain, ac yn byw yn Y Bala.[8]

Recordiadau

golygu

[9]

Ca' Nôs

golygu

Recordiadau Beautiful Jo BEJO CD-14 (1996)

1 Ffarwel I Aberystwyth 2 Cowboi 3 Brigg Fair 4 Gwenith Gwyn 5 Ridées Pastwn Mawr 6 March Glas 7 Le Gabier De Terre-Neuve 8 Lloer Dirion 9 Banks Of The Nile 10 Pilons L'Herbe

Llatai

golygu

Recordiadau Beautiful Jo BEJO CD-23 (1998)

1 Llatai 2 Daniel Sgubor 3 Pontypridd 4 Blacksmith 5 Gladez & Katell 6 Carol Haf 7 Cariad 8 Bredon Hill; geiriau gan A. E. Housman

Whilia

golygu

Recordiadau Beautiful Jo BEJO CD-30 (2000)

1 Whilia 2 Fi Wela 3 Dole Teifi 4 Dawns O Gwmpas 5 Cariad Fel Y Mor 6 Dawns Tro 7 Chwent

Recordiadau Beautiful Jo BEJO CD-43 (2003)

1 Impo 2 Wasod 3 Grey Cock 4 (gan Fernhill a Nobsta Nutts) Gwalch 5 Neithor 6 Clangeia 7 Hynt

Canu Rhydd

golygu

rhyddhawyd 1 Mai 2011 disgyfrith cd02 [10]

1. adar 2. when i was in my prime 3. diddan 4. forest 5. glyn cynon 6. glyn tawe 7. y fwynlan o serch 8. like the snow

Cyfeiriadau

golygu
  1. Tudalen Youtube
  2. 2.0 2.1 [Living Tradition, Rhagfyr/Ionawr 1998]
  3. Tudalen Ceri Rhys Matthews ar wefan Last FM
  4. Gwefan The Jazzman
  5. "Cofiant Tomos Williams ar wefan JazzCDs". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-06. Cyrchwyd 2014-02-18.
  6. Gwefan Cyngor Celfyddydau Cymru[dolen farw]
  7. "Y gerdd Fernhill gan Dylan Thomas ar wefan Poetry Foundation". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-17. Cyrchwyd 2014-02-18.
  8. "Gwefan cerddcymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-24. Cyrchwyd 2014-02-18.
  9. Gwefan discogs.com
  10. tudalen Fernhill ar wefan Bandcamp

Dolen Allanol

golygu