Bwrdeistref Fetropolitan Barnsley

bwrdeistref fetropolitan yn Ne Swydd Efrog

Bwrdeistref fetropolitan yn Ne Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Barnsley (Saesneg: Metropolitan Borough of Barnsley).

Bwrdeistref Fetropolitan Barnsley
Mathbwrdeistref fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDe Swydd Efrog
PrifddinasBarnsley Edit this on Wikidata
Poblogaeth245,199 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDe Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd329.0777 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.55°N 1.47°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE08000016 Edit this on Wikidata
GB-BNS Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Barnsley Metropolitan Borough Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 329 km², gyda 246,866 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Fetropolitan Doncaster i'r dwyrain, Bwrdeistref Fetropolitan Rotherham a Dinas Sheffield i'r de, Swydd Derby, i'r gorllewin, a Gorllewin Swydd Efrog i'r gogledd.

Bwrdeistref Fetropolitan Barnsley yn Ne Swydd Efrog

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan De Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.

Rhennir y fwrdeistref yn 17 o blwyf sifili, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Barnsley, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Brierley, Hoyland, Penistone ac Wombwell.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 29 Awst 2020