Bwrdeistref Fetropolitan Sefton
Bwrdeistref fetropolitan yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Sefton (Saesneg: Metropolitan Borough of Sefton).
Math | bwrdeistref fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Glannau Merswy |
Prifddinas | Bootle |
Poblogaeth | 275,396 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Gdańsk, Fort Lauderdale, Mons |
Daearyddiaeth | |
Sir | Glannau Merswy (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 154.9911 km² |
Cyfesurynnau | 53.445°N 2.998°W |
Cod SYG | E08000014 |
GB-SFT | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Sefton Metropolitan Borough Council |
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 153 km², gyda 276,410 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Lerpwl a Bwrdeistref Fetropolitan Knowsley i'r de, Swydd Gaerhirfryn i'r dwyrain, a Môr Iwerddon i'r gorllewin.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir y fwrdeistref yn ddeg plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys trefi Bootle a Southport, sy'n rhannu'i swyddfeydd gweinyddol. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Crosby, Formby, Litherland a Maghull. Enwir y fwrdeistref ar ôl Sefton, sy'n bentref ger Maghull.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 17 Gorffennaf 2020