Bwrdeistref Gogledd Swydd Lincoln

awdurdod unedol yn Swydd Lincoln

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Lincoln, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Bwrdeistref Gogledd Swydd Lincoln (Saesneg: Borough of North Lincolnshire).

Bwrdeistref Gogledd Swydd Lincoln
Mathardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref Edit this on Wikidata
PrifddinasScunthorpe Edit this on Wikidata
Poblogaeth172,005 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1996 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSwydd Lincoln Edit this on Wikidata
SirSwydd Lincoln
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd846.2966 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.6°N 0.65°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000013 Edit this on Wikidata
GB-NLN Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of North Lincolnshire Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 846 km², gyda 172,292 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln a Ardal Gorllewin Lindsey i'r de, yn ogystal â Swydd Nottingham i'r de-orllewin, De Swydd Efrog i'r gorllewin, a Dwyrain Swydd Efrog i'r gogledd.

Bwrdeistref Gogledd Swydd Lincoln yn Swydd Lincoln

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1996, pan ddiddymwyd yr hen sir Humberside. (Cyn creu Humberside ym 1974 roedd yr ardal hon wedi bod yn rhan o Swydd Lincoln.)

Rhennir y fwrdeistref yn 56 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Scunthorpe, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Barton-upon-Humber, Brigg, Broughton, Crowle, Epworth, Kirton in Lindsey, a Winterton

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 6 Ionawr 2021