Bwrdeistref Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln

awdurdod unedol yn Swydd Lincoln

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Lincoln, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Bwrdeistref Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln (Saesneg: Borough of North East Lincolnshire).

Bwrdeistref Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln
Mathardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref Edit this on Wikidata
PrifddinasGrimsby Edit this on Wikidata
Poblogaeth159,821 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1996 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iKönigswinter Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSwydd Lincoln Edit this on Wikidata
SirSwydd Lincoln
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd191.8639 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.55°N 0.1°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000012 Edit this on Wikidata
GB-NEL Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of North East Lincolnshire Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 192 km², gyda 159,563 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Gogledd Swydd Lincoln i'r gogledd, Ardal Gorllewin Lindsey i'r gorllewin, ac Ardal Dwyrain Lindsey i'r de, yn ogystal ag aber Afon Humber a Môr y Gogledd i'r dwyrain.

Bwrdeistref Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln yn Swydd Lincoln

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1996, pan ddiddymwyd yr hen sir Humberside. (Cyn creu Humberside ym 1974 roedd yr ardal hon wedi bod yn rhan o Swydd Lincoln.)

Rhennir y fwrdeistref yn 21 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Grimsby, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Bottesford, Cleethorpes ac Immingham.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 6 Ionawr 2021