Band Cymraeg o Amlwch, Ynys Môn yw Bysedd Melys. Ffurfiwyd y band yn 1996. Aelodau'r band yw: Gerallt Jones (llais a gitar), Rhodri Smith (drymiau), Robin Owain Jones (gitar fas), Guto Roberts (gitar a llais cefndir), Gwion Jones (sax a cocanbols), a Sion Gwyn (cornet).

Bysedd Melys
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Mae'r band wedi rhyddhau 2 CD - Cnau (EP, 2001) a Lloerig (EP, 2003).

Enwebwyd y band yn y categori 'Band a Ddaeth i Amlygrwydd' yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2002 (yn erbyn Pep le Pew a Paccino), ac fe'u henwebwyd unwaith yn rhagor yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2003 yn y categori 'Band Newydd Gorau'.

Recordiwyd a darlledwyd sesiwn C2 (BBC Radio Cymru) gan y band nôl yn nechrau 2005.

Disgograffi golygu

  • Cnau Ar Fy Ngen, EP 2001, Recordiau Awen
  • Lloerig yn fy Nhin, EP 2003, Recordiau Awen

Dolenni allanol golygu