Bywyd Gwyn (albwm)

Ail albwm y grŵp Y Bandana yw Bywyd Gwyn. Rhyddhawyd yr albwm yng Ngorffennaf 2013 ar y label Copa.

Bywyd Gwyn
Albwm stiwdio gan Y Bandana
Rhyddhawyd Gorffennaf 2013
Label Copa

Dewiswyd Bywyd Gwyn yn un o ddeg albwm gorau 2013 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth golygu

Cerddoriaeth felys ar gyfer pobl ifanc hapus sydd yma o hyd, ond yn gynyddol bellach, mae Y Bandana yn rhoi sylwedd tu ôl i’r siwgr

—Gwilym Dwyfor, Y Selar

Cyfeiriadau golygu