Bywyd crwydrol
Dull o fyw yw bywyd crwydrol sy'n gyffredin mewn nifer o gymunedau a grwpiau, lle ceir pobl sy'n teithio ac sydd heb gartref arhosol, parhaol. Gelwir un sy'n byw bywyd crwydrol yn "deithiwr crwydrol" neu'n "grwydryn" (lluosog: crwydriaid), ond yn aml cysylltir yr ail o'r termau hyn â math penodol o fywyd crwydrol, sef crwydraeth.
Enghraifft o'r canlynol | tudalen wahaniaethu Wikimedia |
---|
Am ddefnyddiau eraill gweler crwydro.
Mathau o deithwyr crwydrol
golygu- Cardotwyr
- Crwydriaid
- Ffoaduriaid a phobl wedi eu dadleoli'n fewnol
- Gwrthodedigion a'r digartref
- Herwyr, hurfilwyr, banditiaid, ac unigolion eraill ar ffo
- Hobos
- Nomadiaid, megis y Sipsiwn a'r Jenische
- Pobl y strydoedd, gan gynnwys plant y strydoedd, tlodion, sgwatwyr, a phlant digartref
- Teithwyr parhaol, gan gynnwys mewnfudwyr anghyfreithlon
- Trampiaid