Cân i Gymru 2013
Cynhaliwyd Cân i Gymru 2013 yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd, cyn iddo gau a chael ei drawsnewid yn westy. Cyflwynwyd y rhaglen gan Elin Fflur a Gethin Evans.
Cân i Gymru 2013 | |
---|---|
Rownd derfynol | 1 Mawrth 2013 |
Lleoliad | Y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd |
Artist buddugol | Jessop a'r Sgweiri |
Cân fuddugol | Mynd i Gorwen Hefo Alys |
Cân i Gymru | |
◄ 2012 2014 ► |
Dim ond 6 o ganeuon fu'n cystadlu, y nifer lleiaf er 1985.
Enillydd y gystadleuaeth oedd Jessop a'r Sgweiri gyda'r gân 'Mynd i Gorwen hefo Alys'.
Artist | Cân | Cyfansoddw(y)r | Safle | Gwobr |
---|---|---|---|---|
Jessop a'r Sgweiri | Mynd i Gorwen hefo Alys | Rhys Gwynfor ac Osian Huw Williams | 1af | £3,500 |
Catrin Herbert | Ein Tir Na Nog Ein Hunan | Catrin Herbert | ||
Rhydian Gwyn Lewis ac Ifan Davies | Bywyd Sydyn | Rhydian Gwyn Lewis | ||
Alun Evans | Breuddwydion Ceffylau Gwyn | Alun Evans | ||
Elin Parisa Fouladi | Aur ac Arian | Elin Parisa Fouladi a Ben Dobson | ||
Dyfrig Evans | Amser mynd i'n Gwlau | Geth Vaughan a Pete Jarvis |