Dyfrig Evans

Actor, canwr a cherddor o Gymro

Actor a cherddor o Gymro oedd Dyfrig Wyn Evans (23 Awst 197826 Mai 2022). Roedd yn adnabyddus am ei berfformiadau mewn cyfresi teledu megis Rownd a Rownd, Talcen Caled a Darren Drws Nesa. Yn y 1990au, fe oedd prif leisydd y band Topper ac roedd nifer yn ei adnabod fel 'Dyfrig Topper'.[1]

Dyfrig Evans
Ganwyd23 Awst 1978 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mai 2022 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor teledu, cerddor, canwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Roedd Dyfrig yn wreiddiol o Benygroes ac aeth i Ysgol Dyffryn Nantlle.[2]

Cafodd Dyfrig ei ran gyntaf ar deledu yn 13 mlwydd oed, yn C'mon Midffîld!.[3] Daeth i’r amlwg wedyn fel un o gast gwreiddiol Rownd a Rownd, yn portreadu Arwel Jones neu 'Ari Stiffs' a bu'n actio ar y gyfres am bum mlynedd. Yn 2002 ymunodd â chast Talcen Caled fel Huw Williams. Bû'r cymeriad yn rhan o'r rhaglen tan ddiwedd y gyfres yn 2005.

Roedd hefyd yn rhan o'r gyfres Emyn Roc a Rôl yn chwarae’r cymeriad Eryl, aelod o'r band ac un o'r prif gymeriadau. Ymddangosodd mewn cyfresi teledu arall fel Tipyn o Stâd, Gwlad yr Astra Gwyn ac Y Gwyll.

Rhwng 2017 a 2018 bu'n portreadu Kevin mewn dwy gyfres o Darren Drws Nesa.

Cerddoriaeth

golygu

Yn 1992 daeth yn aelod o fand y Paladr gyda'i frawd Iwan Evans. Yn 1995 rhyddhawyd eu cân gynta, sef "Dwi'm yn gwbod. Pam?", ar gasgliad aml-gyfrannog gan label Ankst o'r enw S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol 1. Ymddangoson nhw hefyd ar yr ail record yn y gyfres S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol 2 yn 1996, ond y tro yma dan enw newydd, Topper.

Cynhyrchwyd Arch Noa, EP cyntaf y band, a’r albwm Something to Tell Her gan Mark Roberts o Catatonia. Rhyddhawyd y ddau ar label Ankst yn 1997. Ar gychwyn 1999 rhyddhawyd albwm 'mini' arall, Non Compos Mentis, y tro yma ar eu label eu hunain, Bedlam.

Rhyddhaodd y grŵp eu trydydd albwm Dolur Gwddw yn 2000. Rhyddhawyd y casgliad Y Goreuon O'r Gwaethaf ar label Rasal yn 2005. Yn 2006 cyhoeddoedd Dyfrig albwm o'r enw Idiom fel cerddor unigol.

Yn 2019 daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru gyda'r gân LOL.[4]

Bywyd personol

golygu

Roedd Dyfrig yn byw yng Nghaerdydd gyda ei bartner Elaine Jenkins.[3] Roedd ganddo ddau o blant, Caio a Twm gyda’i gyn-wraig Rowena a merch o'r enw Begw gyda ei gyn-bartner Meleri.[5]

Bu'n reolwr ar Gegin Bodlon yng Nghaerdydd am dair mlynedd.[6]

Marwolaeth

golygu

Bu farw ar ôl salwch byr yn 43 mlwydd oed.

Cynhaliwyd ei angladd brynhawn dydd Mawrth, 14 Mehefin 2022, ym Mhenygroes. Daeth rhai cannoedd i wasanaeth cyhoeddus er cof amdano yng Nghapel y Groes dan arweiniad y Parchedig Geraint Roberts.[7] Dangoswyd rhaglen deyrnged i Dyfrig ar S4C, 24 Mehefin 2022.[8]

Ffilmyddiaeth

golygu
Blwyddyn Teitl Rhan Cwmni Cynhyrchu Nodiadau
1992 Midffîld: Y Mwfi Osborne Picton (ifanc) Ffilmiau'r Nant
1995-2000 Rownd a Rownd Arwel Jones Ffilmiau'r Nant Cymeriad rheolaidd
Meibion Glandŵr
2002-2005 Talcen Caled Huw Williams Ffilmiau'r Nant Cyfres 3-5
2004-2005 Emyn Roc a Rôl Eryl Elidir 2 Gyfres
2006 Llythyrau Ellis Williams Ellis Williams
2008 Tipyn o Stâd Scott Cwmni Da Cyfres 7
2009 Blodau Cwmni Da
Gwlad yr Astra Gwyn
2014 Jam Man Mike ffilm fer
2016 Y Gwyll Dafydd Morris Fiction Factory Cyfres 3
2017-2018 Darren Drws Nesa Kevin Rondo 2 Gyfres
2018 Gwen Tad
2019 Cân i Gymru Canwr / Cyfansoddwr Avanti 3ydd
2019-2020 Helo Syrjeri Trosleisio 2 gyfres
2019 Craith Glyn Jones Severn Screen Cyfres 2
2021 Hewlfa Drysor Ifas y Tryc[9] Avanti
2021 Fflam Matti Vox Pictures
2022 Stâd Scott Cwmni Da 1 cyfres; dilyniant o Tipyn o Stâd

Disgyddiaeth

golygu
Gweler hefyd ddisgyddiaeth Topper

Albymau

golygu
  • Idiom (Rasal, 2007)

Senglau ac EP

golygu
  • Mae Gen i Angel (Jig Cal, 2020)[10]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y cerddor a'r actor Dyfrig Evans wedi marw yn 43 oed , BBC Cymru Fyw, 26 Mai 2022.
  2. https://www.bbc.co.uk/radiocymru/c2/safle/gwesteion/cynnwys/dyfrigevans.shtml
  3. 3.0 3.1 Dyfrig Evans , Golwg360, 14 Ionawr 2021. Cyrchwyd ar 26 Mai 2022.
  4. https://www.s4c.cymru/cy/adloniant/cn-i-gymru-2019/page/31043/lol-dyfrig-evans/[dolen farw]
  5. https://www.thefreelibrary.com/How+Dyfrig+Evans+bounced+from+music+to+acting+and+back+again.-a0156006562
  6.  [0=AZW06gFNZodUrHNxRZKx0whHtQCCDu0ZFvpZ7uHFJlDPnn0HzW7wK-gyzqAALifXxApAMdNZJCJb60rPX-BJqmC8ipzYetrsKJu3hflGNmRC4tIJYYjRc4hfE07bEIeoSQCJnyfyNmcd97WmHuRpxp8qvUf7ty3dB1p1Y5XOXyeR4t-rdqB9VDHprib2MbDgfyHMcks400m3p4jT88bzaq8Cf2dxFwtekOCsq_A1mQeP0Q&__tn__=%2CO%2CP-R Facebook - Bodlon]. Bodlon (26 Mai 2022).
  7. Cynnal angladd y cerddor a’r actor Dyfrig Evans ym Mhenygroes , Newyddion S4C, 14 Mehefin 2022.
  8.  Dyfrig. S4C (24 Mehefin 2022).
  9. https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2030509-dyfrig-evans
  10. https://selar.cymru/2020/sengl-nadolig-newydd-dyfrig-evans/