Cân llofft stabl

canu gwerin Cymraeg gweision fferm

Math ar ganu gwerin Cymraeg yw cân llofft stabl neu fel rheol yn y lluosog, caneuon llofft stabl.

Arddull golygu

Disgfrifir fel "baledi storïol, caneuon treth tafod, serch a charwriaethol ac ati" [1] Fe'i caneid yn draddodiadol gan weision fferm a arferau gysgu yn y llofft stabl. Yn ôl y cerddolegydd, Roy Saer, o'r herwydd, roedd rhyddid gan y gweision i fynd a dod o'r ffarm i ganlyn a hefyd i ganu yn fwy swnllyd i'w gilydd heb ddeffro teulu'r ffarmwr neu'r meistr.[2]

Bu i Roy Saer recordio nifer o ganeuon llofft stabl ym Mhenrhyn Llŷn rhwng 1964-1975 gan ddynion bu'n weision fferm yn ystod degawdau cyntaf yr 20g.

Roedd y caneuon yn gallu bod yn rai gwerin serch poblogaidd fel Y Gwydr Glas, rhai hwylus fel Llanc O Dyddyn Hen a hefyd fersiynau Cymraeg o ganeuon poblogaidd Saesneg/Wyddeleg, megis, a mwy coch neu awgrymog, megis Cân Y Cwcwallt.[3][4]

Recordiad golygu

Cyhoeddodd Recordiau Sain ddau albwm o ganeuon llofft stabl yn yr 1980au. Roeddynt yn recordiadau o archif Amgueddfa Werin Cymru.

Caneuon Plygain a Llofft-Stabal Archifwyd 2021-10-11 yn y Peiriant Wayback. - Recordiau Sain, ailgyhoeddiad 2003, CD Sain SCD2389
Traddodiad Gwerin Cymru Welsh Folk Heritage 2 Caneuon Llofft Stabal Stable-Loft Songs - Sain 1164M, 1980, finyl, record
Caneuon Plygain & Llofft Stabalrhyddhawyr ar Sain C764, 1980)

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

  • Can Y Cwcwallt gan William H. Ellis oddi ar albwm Caneuon Plygain & Llofft Stabal ar Youtube
  • Llanc O Dyddyn Hen gan Tommy Williams oddi ar albwm Caneuon Plygain & Llofft Stabal ar Youtube

Cyfeiriadau golygu