Roy Saer

cerddolegydd a chasglwr alawon gwerin Cymru

Roedd David Roy Saer,[1] yn gyffredin, Roy Saer a hefyd D. Roy Saer, yn gerddolegydd a chasglwr caneuon gwerin Cymreig o bwys yn ail hanner yr 20g.

Roy Saer
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddolegydd Edit this on Wikidata
 
Mynedfa Amgueddfa Werin Cymru lle bu Roy Saer yn gweithio, 2007

Penodwyd Roy Saer i staff Amgueddfa Werin Cymru yn Gynorthwywr Ymchwil ar 1 Ionawr, 1963. Bu yna'n casglu a chofnodi caneuon gwerin Cymraeg drwy recordio unigolion dros Gymru gyfan a chasglu eu hatgofion am yr hen benillion hyn. Dros y degawdau, daeth yn ysgolhaig ar hanes y gân werin, ac fel cydnabyddiaeth o'i wybodaeth eang ar y pwnc, fei etholwyd yn Llywydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 2000. Ystyrir Roy Saer yn arbenigwr o fri ar gerddoriaeth werin yng Nghymru ac y maen awdur ar lyfrau ac erthyglau niferus yn trafod cefndir a datblygiad y traddodiad offerynnol a lleisiol.[2]

Sail i Waith Roy Saer

golygu

Gosodwyd seiliau casglu caneuon gwerin yn yr Amgueddfa gan Vincent Phillips, a apwyntiwyd ym 1957. Roedd o'r cychwyn, yn gyfrifol am gasglu amrywiol elfennau o'r traddodiad llafar, ac erbyn 1960 ei nod oedd cofnodi holl agweddau bywyd gwerin Cymru, boed trwy recordiadau maes, trwy ddeunydd sain masnachol, trwy lyfrau printiedig neu ffotograffau. Recordiodd Vincent Phillips ryw 300 o ganeuon cyn penodiad Roy Saer, ac yn ei fisoedd cyntaf yn y swydd, gwrandawodd Roy ar recordiadau Vincent au defnyddio fel patrwm iw waith maes ei hunan. Gweithiodd Vincent fel tiwtor i Roy yn y dyddiau cynnar, gyda'r naill yn hyfforddir llall ar wahanol agweddau'r dechneg o recordio megis y cyfweld a defnyddior peiriannau. Proses ddigon trafferthus oedd recordio unigolion ar ddechraur 1960au, gan fod yr offer mor feichus i'w cario. Gwellodd y sefyllfa ym 1964, pan brynodd yr Adran Traddodiadau Llafar a Thafodiaethoedd ddau beiriant Nagra or Swistir a oedd o safon llawer gwell na'r peiriannau blaenorol.

Recordio pobl oedrannus oedd bwriad prosiect maes yr Amgueddfa, gan mai gyda hwy yr oedd y dystiolaeth lawnaf a hynaf wrth gofio rhai o ganeuon gwerin eu plentyndod. Nid oedd y siaradwyr o angenrheidrwydd yn berfformwyr cyhoeddus, yn wir, cynheiliaid goddefol yn y maes canu gwerin oedd llawer ohonynt. Roedd strwythr y cyfweliadau yn anffurfiol gyda'r bwriad o ddiogelu atgofion a'u rhoi yn archifau'r Amgueddfa. Anelwyd at recordio'r siaradwyr yn canu yn y ffordd fwyaf naturiol bosibl.

Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru

golygu

Bu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn ddylanwad pwysig iawn ar Roy o'r cychwyn cyntaf ac fe fynychodd ei chynhadleddau blynyddol o 1963 ymlaen gan ddysgu llawer oddi wrth yr aelodau. Pan ymaelododd Roy âr Gymdeithas, ychydig iawn o recordio caneuon oedd yn digwydd, felly roedd gwaith casglu a chofnodi yr Amgueddfa Werin yn arwyddocaol iawn yn ei dydd. Y peth pwysicaf o ran y caneuon gwerin felly, oedd eu bwrw i lawr ar bapur, rhag ofn iddynt farw o'r tir am byth. Gan ddilyn camau'r Gymdeithas, byddai Roy'n astudio'r caneuon a gasglwyd ers ffurfio'r Gymdeithas ym 1906, ac yna'n cofnodi unrhyw newidiadau a datblygiadau a oedd wedi digwydd iddynt dros y blynyddoedd. Aeth Roy hefyd ar ôl y mathau gwahanol o ganeuon, er enghraifft carolau Nadolig, Calennig, Mari Lwyd, canu pwnc a cherdd dant.

Cefnogaeth Meredydd Evans a Phyllis Kinney

golygu

Wrth adysgrifo'r caneuon ar gyfer cyfrol gyntaf Caneuon Llafar Gwlad, cafwyd cymorth gwerthfawr o'r tu allan i'r Amgueddfa gan y Dr Meredydd Evans a'r Dr Phyllis Kinney - ill dau yn awdurdodau yn y maes. Cyhoeddwyd Caneuon Llafar Gwlad (cyfrol 1) ym 1974, wedi blynyddoedd o ymroddiad diflino gan yr awdur a'i gydweithwyr.

Recordiodd a chofnododd Roy Saer gannoedd o ganeuon gan gyfranu at y "casgliad o dros fil o ganeuon" sydd yn Archif yr Amgueddfa Werin.[3]

Traddodiadau Canu

golygu

Cofnododd draddodiadau canu Cymraeg megis Canu Carolau Plygain and Caneuon Lloft Stabl. Rhoddodd gyfweliad gyda Gwenan Gibbard ar BBC Radio Cymru ar ganeuon llofft stabl ar 3 Hydref 2021.[4]

Cymdeithas Alawon Gwerin

golygu

Mae Roy Saer yn Lywydd Anrhydeddus Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru.[5]

Anrhydeddau

golygu

Anrhydeddwyd Saer gan Gwobrau Gwerin Cymru ar 11 Ebrill 2019, gydag anrhydedd Gwobr Cyflawniad Oes am ei ddegawdau o waith ac ysgoloriaeth gyda chaneuon traddodiadol Cymru.[6][7]

Personol

golygu

Roedd Roy Saer yn briod ag Ann Saer, athrawes, bu'n dysgu mewn sawl ysgol gan gynnwys bod yn athrawes Saesneg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd yn yr 1980au ac 1990au (bu farw Ann yn 2018). Mae ganddo dri mab, Dafydd, Ifan ac Owen.

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth

golygu

Cyhoeddodd Roy Saer nifer lawer o erthyglau a dri llyfr ar ganeuon gwerin Cymru.[8]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://www.casgliadywerin.cymru/items/399305
  2. https://amgueddfa.cymru/casgliadau/caneuongwerin/?_ga=2.99301726.117769572.1630574827-1901310678.1630574827
  3. https://www.youtube.com/watch?v=07BNX1ADxQo
  4. https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m00107nm
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-02. Cyrchwyd 2021-09-07.
  6. https://trac.cymru/cy/gwobrau-gwerin-cymru-2019/
  7. http://folk.wales/magazine/?p=1876
  8. https://www.abebooks.co.uk/book-search/title/songs-from-the-oral-tradition-caneuon-llafar-gwlad/author/d-roy-saer/