Caniad Solomon
Caniadau Solomon (Hebraeg: שיר השירים) yw 22ain llyfr yr Hen Destament. Ei dalfyriad arferol yw 'Can.'. Mae'n cynnwys cyfres o gerddi serch o naws erotig. Fe'i priodolir i'r brenin Solomon, fab Dafydd a Bathseba, ond cafodd ei chyfansoddi yn yr 2ail ganrif CC, yn ôl pob tebyg, gan awdur neu awduron anhysbys. Mae esboniadwyr Cristnogol ac Iddewig yn gweld y gerdd fel alegori ysbrydol am y berthynas rhwng Duw ac Israel (yn achos yr Iddewon) neu rhwng Crist a'r Eglwys (yn achos y Cristnogion).
Mae'n enghraifft gynnar o draddodiad hirhoedlog yn y Dwyrain o gerddi serch alegorïaidd yn nhraddodiadau cyfrinol Iddewaeth, Cristnogaeth (i raddau llai) ac Islam. Yn achos yr olaf cyrhaeddodd y traddodiad ei uchafbwynt yn y cerddi serch gan feistri fel Hafiz ac Omar Khayyam ym Mhersia.
Roedd awdl Merch Ein Hamserau yn barodi o Ganiadau Solomon:
Dyfyniad:
- Cân i mi'n gyoes f'offeryn oesol,
- Reggae gwahoddiad, a'r blues tragwddol,
- Cân yn ifanc, hynafol, dy nodau
- A chân ar rythmau'r caniadau cnawdol.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Bro Delyn 1991; Eisteddfod Genedlaethol Cymru.