Celys

(Ailgyfeiriad o Cêl)

Deil-lysieuyn yw celys,[1] cêl[1] neu fresychen ddeiliog sydd yn cynnwys sawl cyltifar o fresych (Brassica oleracea) a nodweddir gan goesynnau hirion, dail mawrion, a diffyg pen caled.

Celys
Celys cwrlog.

Mae'r cyltifarau cyffredin o gelys yn cynnwys:

  • Celys cwrlog, gyda dail crychion o liw gwyrdd, a chanddo flas fymryn chwerw ac ansoddni cryf, a roddir mewn saladau, swpiau, a llysiau tro-ffrio;
  • Celys Eidalaidd, celys palmwydd neu gelys deinosor, gyda dail hirion, meinion o liw gwyrdd tywyll, a chanddo flas melys ac ansoddni meddal o'i gymharu â chelys cwrlog, a ddefnyddir yn fynych mewn coginiaeth Eidalaidd;
  • Celys Rwsiaidd, gyda dail crychion o liw coch-borffor, a dyfir am fwyd ac am addurno gerddi a thirlunio.

Planhigyn eilflwydd yw celys, ond fel arfer fe'i tyfir yn flynyddol. Wrth flodeuo yn yr ail flwyddyn, mae'n cynhyrchu blodau melyn a ffrwythau ar ffurf silicwa. Cnwd caled ydyw a gaiff ei fwyta yn ystod tymhorau'r hydref a'r gaeaf yn bennaf, am fod y tywydd oer yn gwella'i flas.[2]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Termau Coginio (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1971), t. 19.
  2. (Saesneg) Kale. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Gorffennaf 2023.