Mae ysgewyll, neu ysgewyll Brwsel (Brassica oleracea Grwp: Gemmifera) o deulu'r Brassicaceae (gair Lladin o'r un tarddiad â'r gair Cymraeg 'bresych') yn cael ei dyfu am ei egin gwyrdd (2.5 – 4 cm o ddiametr), sef clwstwr o ddail gwyrdd, sy'n flasus iawn mewn pryd o fwyd megis y cinio Nadolig traddodiadol. Maen nhw'n tyfu ar fonyn tua dwy droedfedd o uchder. Ceir rhwng 1.1 ac 1.4 kg o ysgewyll bwytadwy ar bob bonyn. Dywed rhai mai'r Rhufeiniaid ddaeth â nhw i Wledydd Prydain.[1]

Ysgewyll Brwsel

Mae'r ysgewyll yn glympiau gwyrdd - gyda phob un yn edrych yn debyg iawn i fresych pitw. Ceir ymchwiliadau gwyddonol sy'n edrych a yw cynnwys rhai llysiau fel brocoli, ysgewyll a bresych, yn gallu helpu i atal cansar megis cancsar ceg y groth[2] a chansar y coluddion. Credir mai'r sinigrin sy'n gyfrifol am y gallu anghyffredin hwn.

Mae ysgewyll yn llawn fitamin A, fitamin C, asid ffolig a ffibr.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ceir erthygl Saesneg ar ysgewyll yma". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-21. Cyrchwyd 2008-12-25.
  2. Gweler erthygl ar hyn ar wefan y BBC: 4200000/newsid 4203900/4203999.stm[dolen marw]