Ffurfiwyd Côr Seingar yn 2004 yn nhref Caerfyrddin. Nicki Roderick (nee Richley) yw arweinydd a sylfaenydd y Côr; Elin Mair Rees yw'r cyfeilydd. Mae'r Côr yn ymarfer ar nosweithiau Mawrth yn Festri Capel y Priordy, Heol y Prior, Caerfyrddin. Maent yn gôr 4 llais - Soprano, Tenor, Bas ac Alto. Maent yn canu yn y Gymraeg ac yn aml i'w gweld mewn eisteddfodau lleol, cyngherddau a phriodasau.

Côr Seingar
Enghraifft o'r canlynolcôr Edit this on Wikidata

Mae'r Côr wedi rhyddhau CD o'r enw Eiliad, recordiwyd yn stiwdio Sonic One, Llangennech gyda Tim Hamill. Ceir rhestr o'r caneuon sydd ar y gryno ddisg ar wefan y côr. Mae holl elw gwerthiant y CD yn mynd tuag at elusennau lleol.

Comisiynodd y côr gyn-aelod i ysgrifennu cân yn arbennig i'r côr, Catrin Dafydd yw awdur geiriau 'Eiliad' ac Eric Jones yw cyfansoddwr y dôn. Mae'r gân i'w chanu ag unawdydd, ysgrifennodd Catrin hi er mwyn i gyn-aelod arall o'r côr ganu rhan yr unawd, sef y tenor adnabyddus, Robin Lyn Evans.

Dolenni allanol

golygu