Catrin Dafydd (llenores)

Awdur a bardd o Gymraes

Llenores llawrydd a nofelydd Cymreig ydy Catrin Dafydd (ganwyd 1982), sy'n dod o Waelod-y-Garth ger Pontypridd ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Bu'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth a hi oedd Llywydd UMCA 2003–2004. Ei thad oedd yr awdur Dafydd Huws.

Catrin Dafydd
Catrin Dafydd yn Awst 2018
Ganwyd1982 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadDafydd Huws Edit this on Wikidata
llofnod
Am yr actores o'r un enw, gweler Catrin Dafydd (actores).

Gyrfa golygu

Mae hi wedi cyhoeddi sawl nofel, gan gynnwys Gwales (2017) a Pili Pala (2006) yn Gymraeg a Random Deaths and Custard (2007) yn Saesneg; a bu hefyd yn olygydd y cylchgrawn Tu Chwith a Dim Lol. Yn ogystal â llenydda mae hi'n ddiwyd fel digrifwr gyda'i chymeriad dychmygol o'r Wladfa, Evita Morgan, yn gwneud ymddangosiadau aml ar S4C. Mae hi'n teithio Cymru fel storiwraig ac yn cynnal gweithdai llenyddol mewn ysgolion. Enillodd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd 2005. Roedd ymhlith y beirdd a sefydlodd nosweithiau annibynnol Bragdy'r Beirdd.

Yn ogystal â'i gyrfa llenyddol, mae hi hefyd yn ymgyrchydd iaith, bu ar un adeg yn Swyddog Ymgyrchu Deddf Iaith i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Roedd yn chwarae piano i'r band Gilespi.

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 gyda chyfres o gerddi ar y testun Olion.[1]

Llenyddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Catrin Dafydd yn ennill y goron , Golwg360, 6 Awst 2018.

Dolen allanol golygu