C.P.D. Merched Briton Ferry Llansawel

clwb pêl-droed merched yn nhref Llansawel (Briton Ferry yn Saesneg), Morgannwg

Mae Clwb Pêl-droed Merched Briton Ferry Llansawel (Briton Ferry Llansawel Ladies Football Club) yn glwb pêl-droed merched wedi'i leoli yn Llansawel, ger Castell-nedd. Fel y tim dynion, C.P.D. Briton Ferry Llansawel, mae'r enw yn cyfuno'r enw Cymraeg am Briton Ferry, sef, "Llansawel" a'r enw Saesneg ac yn uniad o ddau glwb gwahanol - "Llansawel F.C." a "Briton Ferry F.C.". Fel tîm y dynion, maent yn chwarae ar faes Old Road yn Llansawel.

Briton Ferry Llansawel AFC Ladies
Enw llawnBriton Ferry Llansawel Athletic Football Club
LlysenwauThe Ferry
Sefydlwyd2013
MaesOld Road Ground,
Briton Ferry
(sy'n dal: 2,000[1])
CynghrairAdran South
2023-241st
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Llysenw'r tîm yw "Y Cochion" ('The Reds').

Fe’i sefydlwyd yn 2013 pan benderfynodd Clwb Pêl-droed Briton Ferry Llansawel AFC gyflwyno pêl-droed merched. O dan arweiniad Ross Norgrove, cychwynnodd y merched yng Nghynghrair Menywod a Merched Gorllewin Cymru West Wales Women and Girls League). Yn eu tymor cyntaf, fe enillon nhw’r gynghrair gan ennill 16 allan o’r 20 gêm gan sgorio 120 gôl yn y broses. Parhaodd y tîm i symud ymlaen gan ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Merched Cymru (Adran Premier bellach, neu 'Adran Genero' wedi'r noddwr cyfredol) ar gyfer tymor 2014/15.

Yn anffodus, disgynnodd y tîm yn y tymor cyntaf yn yr Uwchgynghrair yn ôl i Gynghrair Merched Cymru. Byrhoedlog fu'r diraddiad hwn gan i'r tîm ennill y gynghrair y tymor nesaf a dychwelyd i'r WPWL. Ar ôl ennill Cynghrair Merched Cymru yn nhymor 2017-18[2] i ennill dyrchafiad yn ôl i’r Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth diwrnod olaf y tymor oddi cartref i’r C.P.D. Merched Tref y Barri. Maent ers hynny wedi cwympo nôl i'r Adran De ond ad-ennillon nhw ddyrchafiad yn 2023-24. Mae'r clwb yn rhedeg dau dîm hŷn yn ogystal â thîm ieuenctid dan 19 a thîm dan 16.[3]

Anrhydeddau

golygu

Bu i'r clwb ennill Adran Genero De yn 2023-24 gan ddyrchafu i Genero Premier.[4] Roedd hyn ychydig dan deufis cyn i dîm y dynion hefyd ennill dyrcharfiad i Uwch Gynghrair Cymru.[5]

Bu iddynt gyrraedd ffeinal Cwpan Pêl-droed Merched Cymru yn nhymor 2022-23 ond gan golli yn y ffeinal, 4-0, i C.P.D. Merched Dinas Caerdydd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Old Road, home to Briton Ferry Llansawel, Briton Ferry Llansawel Ladies - Football Ground Map". www.footballgroundmap.com. Cyrchwyd 8 August 2019.
  2. "South Wales Women's & Girls' League - Season Archive". www.swwgl.co.uk. Cyrchwyd 8 August 2019.[dolen farw]
  3. "About Us". Gwefan BRITON FERRY LLANSAWEL LADIES. Cyrchwyd 14 Mai 2024.
  4. "With the results falling in our favour today, Ferry are confirmed Champions of the Genero Adran South 🏆". Cyfrif Twitter @BFLLAFC. 11 Chwefror 2024.
  5. "WBS NATIONAL FINAL". gwefan CPD Briton Ferry Llansawel. Cyrchwyd 14 Mai 2024.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.