C.P.D. Briton Ferry Llansawel A.F.C.

clwb pêl-droed

Clwb pêl-droed o Lansawel ym mwrdeistref Castell-nedd Port Talbot ydi C.P.D. Briton Ferry Llansawel (Saesneg: Briton Ferry Llansawel A.F.C.). Mae'r clwb yn uniad yn 2009 rhwng Briton Ferry Athletic FC a Llansawel FC. Mae'r clwb yn chwarae yng Nghynghrair Cymru (Y De), ail lefel pêl-droed yng Nghymru.

Briton Ferry Llansawel
Briton Ferry Llansawel.jpg
Enw llawnBriton Ferry Llansawel Athletic Football Club
Sefydlwyd2009[1]
MaesOld Road
Llansawel SA11 2BU
(sy'n dal: 2,000[2])
RheolwrCarl Shaw
CynghrairCynghrair Cymru (Y De) Adran Un
2022/233.
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Yn ogystal â'r tîm dynion, ceir tîm datblygu; ieuenctid; menywod; ail dîm menywod wrth; a dan 16.

Hanes golygu

Sefydlwyd y clwb presenol yn 2009 wrth i glybiau Briton Ferry Athletic a C.P.D. Llansawel uno er mwyn creu C.P.D. Briton Ferry Llansawel[3].

Briton Ferry Athletic golygu

Sefydlwyd Briton Ferry Athletic ym 1925-26 o dan yr enw Briton Ferry Ex-Schoolboys cyn newid eu henwau ym 1926[3] cyn dod yn aelodau o Gynghrair Cymru (Y De) yn 1932-33[4].

Roedd y clwb yn un o aelodau gwreiddiol Cynghrair Cenedlaethol Cymru ym 1992-93[5] ond ar ddiwedd tymor 1993-94 disgynodd y clwb yn ôl i Gynghrair Cymru (Y De). Er ennill Pencampwriaeth Cynghrair Cymru (Y De) y tymor canlynoil, gwrthododd y clwb y gwahoddiad i esgyn yn ôl i'r brif adran. Yn dilyn y penderfyniad, cafwyd sawl tymor anodd ac erbyn diwedd 2008-09 roedd y clwb wedi cwympo i Drydedd Adran Cynghrair Cymru (Y De).[3][6].

Llansawel golygu

Sefydlwyd C.P.D. Llansawel ym 1985 gan grŵp o dadau oedd â'u meibion yn chwarae i Giant's Grave Boys Club [3]. Profodd y clwb yn llwyddiannsus iawn mewn cynghreiriau lleol ac erbyn 2005-06 fe'i dyrchafwyd i Adran Tri Gynghrair Cymru (Y De). Wedi tair mlynedd yno penderfynwyd ddechrau trafodaethau i uno gyda Briton Ferry Athletic.

Briton Ferry Llansawel golygu

Chwaraerodd y clwb eu tymore cyntaf yn Nhrydedd Adran Cynghrair Cymru (Y De) yn 2009-10 gan gymryd lle yr hen Briton Ferry Athletic[7].

Maes golygu

Mae'r clwb yn chwarae yn maes Yr Hen Ffordd (Old Road) yn Llansawel.[8] Enillodd y maes statws Tier 2 gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a thros y blynyddoedd diweddar ychwanegwyd eisteddle grand, adnoddau i wylwyr anabl, adnoddau i'r wasg a mochelfa timau ('dugout') 13 person.[9]

Cit ac Arwyddlun golygu

Mae arfbais y clwb newydd yn defnyddio'r lliwiau gwych, coch a melyn sy'n cynrychioli lliwiau'r ddau glwb a unodd. Oddi ar 2009-10 y lliwiau cit cartref yw dyluniad traddodiadol yr hen Briton Ferry o grys wedi ei chwarteri'n goch a gwyrdd, trwsus gwyrdd a sannau cochion. Y cit oddi cartref yw lliwiau traddodiadol yr hen dîm Llansawel sef, crys felen, trwsus du a sannau streipiog ar draws melyn a du.[10]

Y cit bellach yw coch i gyd.

Anrhydeddau golygu

Chwaraewyr nodedig golygu

  • Roy John - 14 cap dros Gymru 1931–1938
  • Harold Williams - 4 cap dros Gymru 1949-1950
  • Carl Harris - 24 cap dros Gymru 1976-1982

Cyfeiriadau golygu

  1. "Briton Ferry Llansawel - Gwefan Swyddogol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-27. Cyrchwyd 2018-11-24.
  2. Soccerway.com
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 "History - Briton Ferry Llansawel AFC". Briton Ferry Llansawel AFC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-27. Cyrchwyd 2018-11-24.
  4. "Welsh League (South) 1932-33". Welsh Football Data Archive.
  5. "Teithio'r tymhorau: 1992/93". Sgorio.
  6. "Welsh League (South) 2008-09". Welsh Football Data Archive.
  7. "Welsh League (South) 2009-10". Welsh Football Data Archive.
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-27. Cyrchwyd 2018-11-24.
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-27. Cyrchwyd 2018-11-24.
  10. The Welsh Football League - Official Website Archifwyd February 24, 2009, yn y Peiriant Wayback.

Dolenni allanol golygu

Cynghrair Cymru (Y De), 2018-19

Cambrian a Clydach | Celtic Cwmbrân | Cwmaman | Ffynnon Taf | Goytre | Goytre Unedig | Gwndy | Hwlffordd | Lido Afan | Llanilltyd Fawr | Llansawel | Pen-y-bont | Tref Pontypridd | Port Talbot | Rhydaman | Ton Pentre |