C.P.D. Merched Tref Port Talbot

clwb pêl-droed merched Port Talbot, Cymru

Mae Clwb Pêl-droed Merched Tref Port Talbot (Saesneg: Port Talbot Town Ladies F.C.) yn dîm pêl-droed, sy'n chwarae yng Nghynghreiriau Adran Cymdeithas Bêl-droed Cymru, y gwnaethant ymuno â hi yn 2012 - y tymor cyntaf i gynnwys cynghrair un adran.[3]

Port Talbot Town Ladies
Enw llawnC.P.D.M. Port Talbot / Town Ladies Football Club
LlysenwauThe Blues, Y Gleision
Sefydlwyd2012
MaesMaes Ffordd Victoria, Port Talbot
(sy'n dal: 6,000 (1,000 seated))
CadeiryddGerald Payne[1]
RheolwrHayley Williams[2]
CynghrairUwch Gynghrair Cymru, Premier Adran
2019-204th
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref

Yn ogystal â'r tîm merched hyn, ceir tim i'r merched iau.[4]

Roedd tîm merched Port Talbot yn aelodau sylfaen o Uwch Gynghrair Merched Cymru yn 2012. Mae Port Talbot wedi bod yn rhan byth-bresennol o’r gynghrair gan orffen heb fod yn is na 7fed ym mhob un o’u tymhorau. Maent hefyd wedi cyrraedd y camau cynderfynol sawl gwaith yng Nghwpan Merched Cymru a Chwpan Uwch Gynghrair Cymru.

Cynhwyswyd C.P.D.M. Port Talbot yn nhymor gyntaf yr Uwch Gynghrair a strwythur newydd pêl-droed merched Cymru newydd pan lansiwyd Genero Adran Premier yn nhymor 2021-22.[5]

Cit cartref y tîm yw crysau glas golau a thrwsus a sannau gas tywyll. Fel tîm y dynion, adnebir y tîm gan y llysenw, 'Y Gleision' neu'n fwy cyffredin, 'The Blues'.

Maes cartref

golygu

Mae'r clwb yn chwarae ei gemau cartref yn Victoria Road, Port Talbot, sydd â lle i 6,000.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Club Directory | Port Talbot Town Football Club". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-18. Cyrchwyd 1 August 2019.
  2. "Port Talbot Town Ladies Club Information - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-18. Cyrchwyd 1 August 2019.
  3. "League Tables - Welsh Premier Womens League". www.welshpremierwomensleague.co.uk. Cyrchwyd 1 August 2019.[dolen farw]
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-18. Cyrchwyd 2021-08-18.
  5. https://www.bbc.co.uk/sport/football/58221934

Dolenni allanol

golygu