C.P.D. Merched Tref y Barri Unedig
Mae Clwb Pêl-droed Merched Tref Y Barri Unedig (Saesneg: Barry Town United Ladies F.C.) yn glwb pêl-droed, yn Uwch Gynghrair Merched Cymru ar ei newydd wedd fel Genero Adran Premier yn 2021-22.[1] Dyma'r tro cyntaf i'r clwb chwarae yn haen uchaf pêl-droed merched Cymru.[2]
Enw llawn | C.P.D. Merched Tref y Barri Unedig |
---|---|
Maes | Stadiwm Parc Jenner, Y Barri |
Cynghrair | Uwch Gynghrair Merched Cymru |
Hanes
golyguMae gwreiddiau'r clwb yn mynd nôl i 2012 gyda sefydlu 'Vale Ladies & Girls FC' gan ymuno gyda C.P.D. Tref Y Barri yn 2015. Wrth ddysgu am gais llwyddiannus y clwb i ennill safle yn y Genero Adran Premier, dywedodd y Cyd-sylfaenydd ac Ysgrifennydd y Merched, Gino Esposito, “Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r newyddion bod ein cais wedi bod yn llwyddiannus i gymryd rhan yn Haen 1 o’r tymor nesaf. Mae hwn yn gyflawniad gwych i’r clwb a ffurfiwyd yn 2012." [3]
Yn 2021 roedd gan y Barri dros 200 o chwaraewyr benywaidd o oedran ifanc i hŷn yn rhan o'r clwb. Dyma'r clwb merched fwyaf o ran nifer gan unrhyw glwb yng Nghymru. Ceir timau cystadleuol i ferched o 6 oed ac hyn a hefyd tîm dan 19 o fewn strwythur y clwb.[4]
Cit
golyguLliwiau'r tîm, fel un y dynion, yw crysau melyn a throwsus glas.[5]
Maes Cartref
golyguBu C.P.D. Merched Y Barri yn chwarae ar yr un maes â'r tim dynion, sef, Stadiwm Parc Jenner, maes bwrdeistrefol Y Barri.
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.adranleagues.cymru/
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-17. Cyrchwyd 2021-08-17.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-17. Cyrchwyd 2021-08-17.
- ↑ https://www.facebook.com/barrytownladies
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-17. Cyrchwyd 2021-08-17.