C.P.D. Merched Y Seintiau Newydd

clwb pêd-droed merched Y Seintiau Newydd, hen TNS, sy'n chwarae yn Croesoswallt

Mae Clwb Pêl-droed Merched Y Seintiau Newydd, neu C.P.D.M. Y Seintiau Newydd (Saesneg: The New Saints FC Women) yn dîm pêl-droed sy'n chwarae yn Adran Premier, sef Uwch Gynghrair ddomestig pêl-droed menywod Cymru. Maent yn ran o'r clwb pêl-droed fwy, C.P.D. Y Seintiau Newydd. Mae cartref y clwb yn nhref Croesoswallt sydd dros y ffin yn Lloegr.

C.P.D. Merched Y Seintiau Newydd

Ceir hanes dryslyd i dîm pêl-droed merched Y Seintiau Newydd. Yn 2020 ymrannodd y tîm merched oddi ar glwb 'dynion' Y Seintiau Newydd i greu tîm newydd, Wem Ladies FC gan barhau i chwarae yn Division 1 Midlands section National League Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yr FA. Daeth hyn yn sgîl anhapurwydd nad oedd arian o dîm dynion y Seintiau Newydd. Roedd tîm merched TNS (Seintiau Newydd) wedi bod yn chwarae yn strwythur Lloegr. Meddai "We have now changed our name to Wem Town LFC after our move from The New Saints. TNS (perchnogion Y Seintiau Newydd) have made it clear that the ladies' section wasn't (and never was) high on their list of priorities. Unfortunately, we have not been allowed to bring across the prize money won by the ladies in the 2019/20 Women's FA Cup as that is now 'club money' at TNS.[1]

Tra bod y tîm dynion yn hynod o lwyddiannus yn Uwch Gynghrair Cymru - y Cymru Premier - diweddar iawn yw hanes tîm y merched o fewn chwarae yng Nghymru, o leiaf. Ail-sefydlwyd tîm y merched o fewn strwythur Gymreig mewn pryd yn 2020 a 2021 ar gyfer cyflwyno cais i ymuno gyda'r Uwch Gynghrair Meched Cymru ar ei newydd wedd fel Adran Premier.[2][3]

Bu gêm gyntaf y Seintiau Newydd yn yr Adran Premier ar 5 Medi 2021 yn erbyn Tref Pontypridd. Collodd y Seintiau 1-2.[4]

Controfersi

golygu

Erbyn tymor 2021-22 penderfynodd Gymdeithas Bêl-droed Cymru ailstrwythuro ac ailfrandio Uwch Gynghrair y merched. Penderfynwyd ar gynnwys dim ond wyth tîm i'r prif gynghrair, y Genero Adran Premier, (a'r unig gynghrair genedlaethol gyda thimau o'r De a'r Gogledd). [5] Er gwaethaf y ffaith nad oedd tîm merched erioed wedi cystadlu yn strwythur pêl-droed merched Cymru ac nad oedd hyd yn oed tîm merched gan y Seintiau Newydd, fe'i cynhwyswyd yn y gynghrair ar ei newydd wedd, ac hynny er gwaethaf timau eraill sefydliedig oedd wedi cystadlu ar y lefel uchaf, fel Y Fenni. Gwnaeth y penderfyniad yma "gythruddo" Stuart Summers, Ysgrifennydd y Fenni.[6]

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu