C.P.D. Merched Pontypridd Unedig

Clwb Pêl-droed. Merched Tref Pontypridd

Mae C.P.D. Merched Pontypridd Unedig (Pontypridd United AFC Women) yn chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru a ailfranwyd yn Adran Premier ers tymor 2021-22.

C.P.D. Merched Tref Pontypridd
Enw llawnPontypridd Town AFC Women
MaesMeysydd Chwaraeon Prifysgol De Cymru, Trefforest
CynghrairUwch Gynghrair Merched Cymru
Maes chwarae Pontypridd Unedig sy'n rhan o adnoddau Prifysgol De Cymru yn Nhrefforest

Hanes golygu

Ymddengys y sefydlwyd C.P.D Merched Pontypridd yn 1992. Ar gyfer tymor 2021-22 ac yn sgil newidiadau i strwythur cystadlaethau pêl-droed merched Cymru gan y Gymdeithas Bêl-droed, cafwyd cais gan C.P.D. Merched Cyncoed Nghaerdydd, i uno'r ddau glwb. Roedd hyn yn rhannol gan bod Cyncoed eisoes yn chwarae ar safle Prifysgol De Cymru ym Mhontypridd ac er mwyn gwireddu'r awydd i dyfu a chryfhau'r ddarpariaeth bêl-droed i ferched ym Mhontypridd a'r ardal gan glwb gwreiddiol Pontypridd.[1] Erbyn 2021-22 felly unwyd C.P.D. Merched Pontypridd, C.P.D. Tref Pontypridd (dynion) a'r hen C.P.D. Merched Cyncoed i greu un endid. Yn ôl Fern Burrage-Male, cyfarwyddwr pêl-droed Merched Cyncoed, “Nid un tîm yn meddiannu'r llall yw hyn o bell ffordd. Cydweithrediad yw hwn. Mae'n bartneriaeth gyffrous sy’n creu super club yn yr ardal sy’n galluogi pêl-droed menywod a merched i ffynnu.”[2]

Derbyniwyd Tref Pontypridd ar ei newydd wedd i chwarae yn yr Adran Preimer newydd yn 2021-22.[3] Bu iddynt ennill ei gêm hanesyddol gyntaf yn yr Uwch Adran, 2-1 yn erbyn Y Seintiau Newydd.[4] Sgoriwr y ddwy gôl i Bontypridd oedd, Alison Witts.[5] [6]

Newid enw golygu

I gyd-fynd â dyrchafiad tîm y dynion i'r Cymru Premier ar ddiwedd tymor 2021/22, newidwyd enw'r clwb i Glwb Pêl-droed Pontypridd Unedig.

Maes Cartref golygu

Bu C.P.D. Merched Pontypridd yn chwarae ar faes yng nghaeau Parc Ynys Angharad yn nhref Pontypridd.[7] Yn dilyn yr uniad gyda Chyncoed, mae'r tîm yn chwarae eu gemau cartref ar faes Prifysgol De Cymru, Trefforest.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu