Clwb Pêl-droed Merched Tref y Fenni
Ffurfiwyd Clwb Pêl-droed Merched Tref y Fenni (Saesneg: Abergavenny Town Women FC) yn 2016 ac ar hyn o bryd maent wedi chwarae yng Uwch Gynghrair Merched Cymru. Lleolir y clwb yn nhref Y Fenni yn Sir Fynwy. Maent yn rhan o'r un clwb â C.P.D. Tref y Fenni.
Enw llawn | C.P.D.M. Tref y Fenni / Abergavenny Town Women Football Club | ||
---|---|---|---|
Sefydlwyd | 2016 | ||
Cynghrair | Ardal South, Cynghrair Merched Cymru | ||
|
Hanes
golyguMae gwreiddiau C.P.D.M. Tref y Fenni yn hen dîm PILCS. Ffurfiwyd tîm merched PILCS yn 2011 ac yn dilyn ennill y gynghrair dwy flynyedd o'r fron ar lefel leol gwelwyd dyrchafiad yn 2013 i Uwch Gynghrair Merched Cymru.
Newidiwyd Merched PILCS i fod yn C.P.D.M. Tref y Fenni yn 2016. Nod symud i'r Fenni oedd denu'r chwaraewyr benywaidd gorau yn Sir Fynwy a'r cylch er mwy parhau â chynnydd yn Uwchgynghrair Merched Cymru. Ym mis Mehefin 2017 enillodd y clwb gystadleuaeth pum-bob-ochr genedlaethol CWPAN Y BOBL y Merched ar ôl curo C.P.D. Merched Tref Llanduno ym Mae Caerdydd ar ddiwrnod rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA a oedd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd y flwyddyn honno.[1]
Siom Adran Premier
golyguAr gyfer tymor 2021-22 datganodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ailstrwytho ac ailfrandio ar gyfer pêl-droed merched.
Ailfrandwyd yr Uwch Gynghrair yn Genero Adran Premier. Cafwyd ceisiadau gan 15 clwb i gystadlu yn yr haen uchaf. Er i'r Fenni orffen yn bedwaredd yn yr Uwch Gynghrair yn 2019-20, ni wahoddwyd hwy i gystadlu yn yr Adran uchaf newydd oedd yn cynnwys wyth clwb. Dechreuodd Y Fenni tymor 2021-22 yn Adran South, sef ail haen y drefn newydd gyda'r posibilrwydd o esgyn i Adran Premier.[2] Mewn datganiad gan y clwb dywedodd y Fenni: "Fe basiom ni gais trwydded Haen 1 CBDC, proses a orfodwyd ar glybiau yn ystod pandemig byd-eang. Roedd hyn yn golygu nad oedd ein seilwaith a'n cyfleusterau dan sylw. Yn ôl y clwbː "Er mawr siom, nod oeddem yn un o'r wyth tîm dethol. Fodd bynnag, nid yw dau glwb sydd wedi'u dewis [ Y Seintiau Newydd a'r Barri ] erioed wedi chwarae yn haen uchaf pêl-droed Merched Cymru."[3]
Anrhydeddau
golyguMerched PILCS
golyguWedi’u ffurfio yn 2011 a theitlau cynghrair yn olynol ar lefel leol gwelwyd dyrchafiad yn 2013 i Uwch Gynghrair Merched Cymru yr Genero Adran Premier, bellach.
Y gynghrair
golygu- 2013/14 - 2il yn yr Uwch Gynghrair
- 2014/15 - 3ydd yn yr Uwch Gynghrair
- 2015/16 - 5ed yn yr Uwch Gynghrair
Cwpanau
golygu- 2012/13 Rownd Derfynol
- 2013/14 Rownd Derfynol
- 2014/15 Enillwyr Cwpan y Gynghrair 2014/15
- 2015/16 Ail Gwpan Cwpan y Gynghrair 2015/16
Merched y Fenni
golyguCwpanau
golygu- 2017 Enillwyr cystadleuaeth pum-bob-ochr cenedlaethol CWPAN Y BOBL i fenywod pan gynhaliwydd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA y dynion yng Nghaerdydd y flwyddyn honno
Cit
golyguGlas i gyd, fel cit tîm y dynion.
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-18. Cyrchwyd 2021-08-18.
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/57306133
- ↑ https://www.bbc.co.uk/sport/football/57304754