C.P.D. Y Seintiau Newydd

Clwb pêl-droed

Clwb pêl-droed o Groesoswallt ydy Clwb Pêl-droed Y Seintiau Newydd (Saesneg: The New Saints Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, sef Preimier Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru ac maent wedi bod yn bencampwyr ar 13eg achlysur. Maent hefyd wedi codi tlws Cwpan Cymru ar chwech achlysur.

C.P.D. Y Seintiau Newydd
Enw llawn Clwb Pêl-droed Y Seintiau Newydd
Llysenw(au) Y Seintiau
Sefydlwyd 1860 (C.P.D. Tref Croesoswallt)
1959 (C.P.D. Llansantffraid)
Maes Neuadd y Parc, Croesoswallt
Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru
2022/23 1.

Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Neuadd y Parc, maes sy'n dal uchafswm o 3,000 o dorf[1].

Daeth y clwb i fodolaeth yn dilyn uniad rhwng clybiau Llansantffraid a Chroesoswallt yn 2003[2] .

Ceir hefyd tîm menywod Y Seinitau Newydd. Bu i C.P.D. Merched y Seintiau Newydd gystadlu yn nhymor cyntaf Adran Premier, sef, Uwch Gynghrair Pêl-droed Merched Cymru ar ei newydd wedd yn nhymor 2021-22.

Hanes golygu

Croesoswallt golygu

Er eu bod wedi eu lleoli yn Lloegr, roedd C.P.D. Tref Croesoswallt yn un o'r clybiau sefydlodd Gymdeithas Bêl-droed Cymru ym 1876[3] gan gystadlu yng Nghwpan Cymru yn y gystadleuaeth cyntaf erioed ym 1877-78[4].

Fel nifer o glybiau Cymru ar y pryd, roedd Croesoswallt yn chwarae yng Nghwpan Cymru ac yng Nghwpan FA Lloegr, lle llwyddon nhw i gyrraedd y rownd gyntaf am y tro cyntaf ym 1927-28 cyn colli 5-2 yn erbyn Stockport County[5].

Cafodd Croesoswallt eu tymor gorau yng Nghwpan Cymru ym 1970-71 wrth iddynt gyrraedd y rownd gynderfynol cyn colli yn erbyn Wrecsam[6] a chawsant eu coroni'n bencampwyr Cynghrair Sir Gaer (Saesneg: Cheshire League) ym 1971-72[7]

Ym 1979-80 cafodd Croesoswallt eu derbyn yn aelodau o Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr (Saesneg: Northern Premier League)[8] ond ar ddiwedd tymor 1987-88, ar ôl gorffen yn safleoedd y cwymp, fe aeth y clwb i'r wal[3][8].

Ail ffurfiwyd y clwb yn y 1990au ac, yn dilyn sefydlu Uwch Gynghrair Cymru, gwnaed penderfyniad i ddod yn aelodau o'r pyramid Cymreig gan ennill y Gynghrair Undebol ar y cynnig cyntaf ym 1995-96[9] a sicrhawyd dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru ar ôl ennill y Gynghrair Undebol eto yn 1999-2000[10].

Ar ddiwedd tymor 2003-04, a chyda'r clwb yn dioddef yn arianol, fe ymddiswyddodd y clwb o Uwch Gynghrair Cymru cyn uno â chlwb Total Network Solutions[11].

Llansantffraid golygu

 
Y Dreflan, maes C.P.D. Llansantffraid

Ffurfiwyd C.P.D Llansantffraid ym 1959 ym mhentref Llansantffraid-ym-Mechain, Powys gyda'r clwb yn dechrau chwarae yng Nghynghrair Sir Drefaldwyn ym 1959-60[12]. Ar ôl blynyddoedd o ennill tlysau ar lefel Sir Drefaldwyn[2] cafwyd dyrchafiad i Gynghrair Canolbarth Cymru ym 1990-91[13] ac ar ôl gorffen y tymor yn yr ail safle, cafwyd dyrchafiad yn syth i'r Gynghrair Undebol ar gyfer tymor 1991-92[14].

Yn eu hail dymor yn y Gynghrair Undebol, llwyddodd Llansantffraid i ddod yn bencampwyr a sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru[15].

Llwyddodd Llansantffraid i godi Cwpan Cynghrair Cymru ym 1994-95 gan drechu Ton Pentre yn y rownd derfynol[16] a'r flwyddyn canlynol cafwyd buddugoliaeth ar giciau o'r smotyn dros Y Barri yn rownd derfynol Cwpan Cymru[17].

Ym 1997-98 ailenwyd y clwb yn Total Network Solutions yn dilyn nawdd gan gwmni cyfrifiadurol o Groesoswallt[2].

Y Seintiau Newydd golygu

Yn 2006, wedi i gwmni BT brynu Total Network Solutions[18], cyhoeddwyd y byddai'r clwb yn newid ei enw i Y Seintiau Newydd[19].

Llwyddodd y clwb i dorri record Y Barri fel y clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes Uwch Gynghrair Cymru wrth sicrhau eu wythfed pencampwriaeth yn 2013-14 cyn ymestyn y record â nawfed pencampwriaeth yn 2014-15.

Record Ewropeaidd golygu

Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
1996-97 Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop Rd Rhag   Ruch Chorzów 1-1 0-5 1-6
2000-01 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1   Levadia Tallinn 2-2 0-4 2-6
2001-02 Cwpan UEFA Rd Rhag   Polonia Warsaw 0-2 0–4 0-6
2002-03 Cwpan UEFA Rd Rhag   Amica Wronki 0-5 2-7 2-12
2003-04 Cwpan UEFA Rd Rhag   Manchester City 0-5 0-2 0-7
2004-05 Cwpan UEFA Rhag 1   Östers IF 0-2 1-2 1-4
2005-06 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1   Lerpwl 0-3 0-3 0-6
2006-07 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1   MYPA 0-1 0-1 0-2
2007-08 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1   FK Ventspils 3-2 1-2 4-4 (a)
2008-09 Cwpan UEFA Rhag 1   FK Sūduva 0-1 0-1 0-2
2009-10 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1   Fram Reykjavik 1-2 1-2 2-4
2010-11 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 2   Bohemians 0-1 4-0 4-1
Rhag 3   Anderlecht 1-3 0-3 1-6
2010-11 Cynghrair Europa UEFA Ail Chwarae   CSKA Sofia 0-3 2-2 2-5
2011-12 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1   Cliftonville 1-1 1-0 2-1
Rhag 2   FC Midtjylland 1-3 2-5 3-8
2012-13 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 2   Helsingborgs IF 0-0 0-3 0-3
2013-14 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 2   Legia Warsaw 1-3 0-1 1-4
2014-15 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 2   Slovan Bratislava 0-1 0-2 0-3
2015-16 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1   B36 Tórshavn 2-1 4-1 6-2
Rhag 2   Videoton 0-1 1-1 (w.a.y.) 1-2
2016-17 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1   Tre Penne 2-1 3-0 5-1
Rhag 2   APOEL 0-0 0-3 0-3
2017-18 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 1   Europa F.C. 1-2 3-1 4-3
Rhag 2   Rijeka 1-5 0-2 1-7
2018-19 Cynghrair y Pencampwyr UEFA Rhag 2   Shkëndija style="background:#F99;vertical-align:middle;text-align:center;" class="table-no"|0–5 (A) 4–0 (H) 4–5
rowspan="2"| UEFA Europa League UEFA Europa League 2Q   Lincoln Red Imps 2–1 (H) 1–1 (A) 3–2
3Q   Midtjylland 0–2 (H)[a] 1–3 (A) 1–5
2019–20 UEFA Champions League 1Q   Feronikeli 2–2 (H) 1–0 (A) 3–2
2Q   Copenhagen 0–2 (H) 0–1 (A) 0–3
UEFA Europa League 3Q   Ludogorets Razgrad 0–5 (A) 0–4 (H) 0–9
2020–21 UEFA Europa League 1Q   Žilina 3-1[20] N/A N/A

Anrhydeddau golygu

Chwaraewyr nodedig golygu

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Club Info: The New Saints". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-11. Cyrchwyd 2015-07-06. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 2.2 "TNS FC:History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-07. Cyrchwyd 2015-07-06. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. 3.0 3.1 "Oswestry Town F.C." Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen marw]
  4. "Welsh Cup 1877-78". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "FA Cup 1927-28". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Welsh Cup 1970-71". Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Oswestry targets return to footballing map". Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. 8.0 8.1 "RSSSF: Northern Premier League Final Tables". Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Cymru Alliance: 1995-96". Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Cymru Alliance: 1999-2000". Unknown parameter |published= ignored (help)
  11. "Oswestry and TNS merger to go ahead". 2004-12-15.
  12. "Montgomery & District League 1959-60". Unknown parameter |published= ignored (help)
  13. "Mid Wales League 1990-91". Unknown parameter |published= ignored (help)
  14. "Cymru Alliance League 1991-92". Unknown parameter |published= ignored (help)
  15. "Cymru Alliance League 1992-93". Unknown parameter |published= ignored (help)
  16. "League Cup Final: 1994-95". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-15. Cyrchwyd 2015-07-06. Unknown parameter |published= ignored (help)
  17. "Welsh Cup Final: 1995-96". Unknown parameter |published= ignored (help)
  18. "BT to 'expand' TNS after buy-out". 2005-10-31. Unknown parameter |published= ignored (help)
  19. "Enw newydd TNS". 2006-06-02. Unknown parameter |published= ignored (help)
  20. https://twitter.com/sgorio/status/1299086772266295302
Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022

Aberystwyth | Caernarfon | Cei Connah | Derwyddon Cefn | Hwlffordd | Met Caerdydd |
Pen-y-Bont | Y Bala | Y Barri | Y Drenewydd | Y Fflint | Y Seintiau Newydd


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "lower-alpha", ond ni ellir canfod y tag <references group="lower-alpha"/>