C.P.D. Padarn United

Mae CPD Padarn United neu'n fwy cyffredin Padarn United FC yn glwb pêl-droed ar gyfer pentref Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth. Mae'r clwb yn chwarae yng Nghynghrair Aberystwyth.

C.P.D. Padarn United
Enw llawnClwb Pêl-droed Padarn United
Enw byrPadarn
MaesBlaendolau
(sy'n dal: 1,000)
CynghrairCynghrair Aberystwyth Adran 1
Lliwiau Cartref
cae Padarn United, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth
Hysbysfwrdd Padarn United FC, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth

Y Clwb golygu

Sefydlwyd y clwb yn 1895.

Mae Padarn Utd yn chwarae ar gae sy'n rhan o feysydd Blaendolau yn Llanbadarn Fawr, wrth ymyl lein Rheilffordd Dyffryn Rheidol.[1]

Ceir dau dîm, tîm cyntaf a'r ail dîm. Mae'r tîm cyntaf yn chwarae yng Adran 1 Cyngrhair Aberystwyth a'r Cylch [2] sydd wedi ei lleoli ar lefel 5 a 6 o system byramid Cymdeithas Bêl-droed Cymru (a noddir gan Cambrian Tyres ac a adnebir fel y Cambrian Tyres League) a'r ail dîm (Padarn United Reserves) yn ail adran Cynghrair Cambrian Tyres. Maent wedi cystadlu yng Cynghrair Canolbarth Cymru yn y gorffennol.

Defnyddir tafarn y Gogerddan Arms, ynghannol pentref Llanbadarn, fel eu tŷ clwb anffurfiol.

Ymysg prif gystadleuwyr lleol y clwb mae Llanilar a Talybont.

Clit golygu

Lliwiau'r clwb yw crysau melyn a thrwsus gwyrdd, sannau melyn.

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.fawtrust.cymru/grassroots/participation/where-play/
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-15. Cyrchwyd 2019-08-12.

Dolenni allanol golygu