Mae Clwb Pêl-droed Penparcau yn glwb pêl-droed o faestref Penparcau, sydd bellach yn rhan o Aberystwyth. Arddelir ffurf Saesneg y clwb fel rheol, Penparcau FC. Sefydlwyd y clwb yn 1909. Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref ar Min-y-ddôl ar waelod stâd Penparcau wrth ymyl Afon Rheidol.

Penparcau Football Club
Enw llawnPenparcau Football Club
LlysenwauArky-Penarky
Sefydlwyd1909
MaesMin-y-Ddol
Penparcau
Aberystwyth
Ceredigion
CadeiryddCliff Thomas
RheolwrAndy Evans a Darren Thomas
CynghrairCynghrair Pêl-droed Canolbarth Cymru, Adran II
2018–19Cynghrair Pêl-droed Aberystwyth a'r Cylch Division One, 1st
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Ar hyn o bryd maen nhw'n chwarae yng Nghynghrair Pêl-droed Canolbarth Cymru, Adran Dau ar gyfer tymor 2019–20, gan nodi dychweliad i'r gynghrair y gwnaethon nhw adael ohoni yn 2011, ar ôl ennill y gynghrair yn 2010.

Diwygiwyd y clwb yn ystod haf 2017 a chwaraeodd yn Adran Un Cynghrair Pêl-droed Aberystwyth a'r Cylch.

Mae gan glwb pêl-droed Penparcau hefyd ddau dîm iau yng Nghynghrair Iau Aberystwyth; Penparcau Flames a Penparcau Phoenix.

Cit golygu

 
Min-y-Ddôl, cartref C.P.D. Penparcau

Mae lliwiau cartref y clwb yn grys streipiog du a gwyn gyda siorts a sanau du. [1] Ymddengys i'r tîm chwarae â throwsus a sannau gwyn yn yr 1960au.[1]

Anrhydedddau golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.