C. P. Snow
Ffisegydd a llenor o Loegr oedd Charles Percy Snow, Barwn Snow o Ddinas Caerlŷr CBE (15 Hydref 1905 – 1 Gorffennaf 1980).
C. P. Snow | |
---|---|
Ganwyd | 15 Hydref 1905 Caerlŷr |
Bu farw | 1 Gorffennaf 1980 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Addysg | Baglor yn y Celfyddydau, Meistr yn y Gwyddorau, Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ffisegydd, llenor, gwleidydd, beirniad llenyddol, nofelydd |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Two Cultures, Corridors of Power |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Priod | Pamela Hansford Johnson |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Goffa James Tait Black, arglwydd am oes, marchog, Marchog Faglor, Gwobr Lenin |
Mynychodd Prifysgol Caerlŷr ac enillodd doethuriaeth o Brifysgol Caergrawnt. Daeth yn gymrawd yng Ngholeg Crist, Caergrawnt yn 25 oed ac astudiodd ffiseg foleciwlaidd am ugain mlynedd cyn iddo gymryd swydd gweinyddwr y brifysgol. Yn y 1930au fe gychwynodd ar gyfres o 11 o nofelau o'r enw Strangers and Brothers (cyhoeddwyd 1940–70). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei benodi'n gynghorwr gwyddonol i'r llywodraeth. Priododd y nofelydd Pamela Hansford Johnson ym 1950. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1957 a'i wneud yn arglwydd am oes ym 1964.[1]
Manteisiodd Snow ar ei yrfa ddeuol drwy ysgrifennu llyfr ar y berthynas rhwng gwyddoniaeth a llenyddiaeth: The Two Cultures and the Scientific Revolution (1959). Dadleuodd bod y gwyddonydd a'r llenor yn gwybod bron dim am ddisgyblaeth y llall, ac felly mae cyfathrebu rhyngddynt yn anodd, os nad amhosib. Sbardunodd dadl ffyrnig ymhlith academyddion a deallusion Gwledydd Prydain, a daeth y beirniad llenyddol F. R. Leavis i flaen y gad i wrthwynebu gosodiad Snow. Ymhelaethodd Snow ar ei syniadau mewn llyfr dilynol, Second Look (1964).[2][3][4][5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) C. P. Snow. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Chwefror 2017.
- ↑ (Saesneg) Stefan Collini. "Leavis v Snow: the two-cultures bust-up 50 years on", The Guardian (16 Awst 2013). Adalwyd ar 28 Chwefror 2017.
- ↑ (Saesneg) Robert Whelan. "Fifty years on, CP Snow's 'Two Cultures' are united in desperation", The Daily Telegraph (5 Mai 2009). Adalwyd ar 28 Chwefror 2017.
- ↑ (Saesneg) Roger Kimball. "The Two Cultures today", New Criterion (Chwefror 1994). Adalwyd ar 28 Chwefror 2017.
- ↑ (Saesneg) Peter Dizikes. "Our Two Cultures", The New York Times (19 Mawrth 2009). Adalwyd ar 28 Chwefror 2017.