Cabinda (talaith)
Allglofan[1] a thalaith o Angola yw Cabinda. Ei phrifddinas yw Cabinda.
Math | taleithiau Angola |
---|---|
Prifddinas | Cabinda |
Poblogaeth | 716,076 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00, Amser Gorllewin Affrica |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Portiwgaleg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Angola |
Gwlad | Angola |
Arwynebedd | 7,270 km² |
Cyfesurynnau | 4.9342°S 12.4053°E |
AO-CAB | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Cabinda |
Hanes
golyguHanes cynnar
golyguRoedd Cabinda cynnar yn cynnwys tair theyrnas: Loango a Kakongo a N'Goyo i ogledd Afon y Congo, a Ndongo i dde Afon y Congo.[2]
Dan reolaeth Portiwgal
golyguYmwelodd y Portiwgaliaid â Cabinda yn gyntaf yn hwyr y 15g. Daeth Cabinda yn Brotectoriaeth Bortiwgalaidd yn sgîl arwyddo Cytundeb Simulambuco ym 1885 wrth i Bortiwgal geisio gyfnerthu ei hymerodraeth yn ystod yr Ymgiprys am Affrica yn hwyr y 18g. Yng nghyfansoddiad yr Estado Novo ym 1933, diffiniwyd Cabinda ac Angola fel rhannau ar wahân o Bortiwgal, ond ym 1956 ymunodd Bortiwgal weinyddiaeth Cabinda ac Angola.[2]
Dan reolaeth Angola
golyguGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Daearyddiaeth
golyguLleolir Cabinda rhwng Gweriniaeth y Congo a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (DRC), gydag arwynebedd o dua 10,000 km².[2] Mae ganddo ffin ogleddol o 201 km â Gweriniaeth y Congo,[1] ffin ddwyreiniol a deheuol o 225 km â'r DRC,[1] a morlin gorllewinol o 150 km â Chefnfor yr Iwerydd.[3] Mae llain 60 km ei lled o diriogaeth y DRC yn gwahanu Cabinda o brif dir Angola.[2]
Economi
golyguMae Cabinda yn cynhyrchu dros hanner o olew Angola, ac yn cyfri am bron ei holl enillion cyfnewid tramor. Mae Cabinda yn derbyn tua 10% o'r trethi a dalir gan ChevronTexaco a'i bartneriaid sydd yn gweithredu alltraeth y dalaith.[2]
Demograffeg
golyguDim ond traean o'r 300,000 o bobl frodorol Cabinda ohonynt sydd yn byw o fewn tiriogaeth y dalaith ei hunan. Mae'r gweddill yn byw yn agos at y ffiniau yn nhiriogaethau Gweriniaeth y Congo a'r DRC.[2]
Iaith genedlaethol Cabinda yw Cabindês. Mae tua 90% o Gabindiaid yn siarad Ffrangeg, a 10% yn siarad Portiwgaleg. Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn Gristnogion.[2]
Cyfeiriadau
golyguDolen allanol
golygu- (Saesneg) In-depth: Cabinda Archifwyd 2010-02-17 yn y Peiriant Wayback