Cymeriad chwedlonol yn chwedl Culhwch ac Olwen yw Cacamwri. Nodweddir ei hanes â throeon trwstan ac ymddengys ei fod yn greadigaeth gomig, fwrlesg yn unig.

Yn ôl y chwedl, roedd yn was i'r Brenin Arthur yn ei lys.[1] Ei frawd oedd Hygwydd, sy'n cludo pair Diwrnach Wyddel o Iwerddon gydag Arthur.[2]

Mae'n dangos y fath frwdfrydedd wrth ddyrnu mewn ysgubor fel bod trawstiau'r adeilad yn torri'n feilchion.

Mae'n un o'r rhai sy'n cymryd rhan yn hela'r Twrch Trwyth. Wrth i'r arwyr hela'r twrch trwy afon Hafren mae Cacamwri yn syrthio i'r afon a bu bron â boddi ond ceiff ei dynnu allan.[3]

Yn olaf mae'n cynorthwyo Arthur i drechu'r Widdon Orddu trwy afael yn ei gwallt a'i thynnu i lawr.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1988), tud. 12.
  2. Culhwch ac Olwen, tud. 17.
  3. Culhwch ac Olwen, tud. 41.
  4. Culhwch ac Olwen, tud. 41-2.