Y Brenin Arthur

brenin chwedlonol
(Ailgyfeiriad o Brenin Arthur)

Cymeriad sy'n ymddangos yn aml ym marddoniaeth a chwedlau Cymraeg yn y cyfnod cynnar, ac sydd hefyd yn ymddangos fel arweinydd y Brythoniaid yn ymladd yn erbyn y goresgynwyr Sacsonaidd oedd y Brenin Arthur. Cred rhai ysgolheigion fod yna Arthur go iawn wedi byw yn y cyfnod rhwng diwedd y bumed ganrif a dechrau'r chweched, tra gred eraill mai cymeriad mytholegol ydyw.

Ffenestr liw yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, yn dangos Arthur yn dychwelyd o Frwydr Baddon.

Ceir cyfeiriad at Arthur fel cymeriad hanesyddol yn yr Historia Brittonum o ran gyntaf y 9g, a briodolir i Nennius. Ceir hefyd gyfeiriadau at Arthur mewn barddoniaeth a chwedlau Cymraeg cynnar, mewn cerddi megis Preiddiau Annwn o tua 900 ac yn arbennig yn chwedl Culhwch ac Olwen, sy'n dyddio i tua 10801100.

Mae Sieffre o Fynwy yn sôn am Arthur a'r dewin Myrddin yn ei Historia Regum Britanniae ("Hanes Brenhinoedd Prydain") ym 1136. O'r adeg hon ymlaen, daeth chwedlau am Arthur yn eithriadol boblogaidd mewn llawer rhan o Ewrop. Ychwanegodd awduron Ffrengig a Normanaidd lawer o fanylion o sawl ffynhonnell, er enghraifft am y cleddyf Caledfwlch, Y Greal Santaidd a chastell Camelot. Un o'r llyfrau mwyaf enwog a dylanwadol am y Brenin Arthur yw'r Morte d'Arthur a ysgrifennwyd gan Thomas Malory yn y bymthegfed ganrif.

Mae chwedlau llên gwerin am Arthur i'w cael ledled Cymru, Cernyw a Llydaw.

Yr Arthur hanesyddol

golygu
 
Bedd gwreiddiol honedig Arthur, Abaty Glastonbury

Nid yw Gildas yn crybwyll Arthur yn y De Excidio Britanniae, a ysgrifennwyd efallai tua 540 neu 550, genhedlaeth ar ôl amser tybiedig Arthur. Fodd bynnag mae yn crybwyll Brwydr Mynydd Baddon, fel brwydr bwysig iawn a enillodd heddwch am gyfnod hir i'r Brythoniaid. Yn ôl y darlleniad arferol, nid yw Gildas yn dweud pwy oedd arweinydd y Brythoniaid yn y frwydr yma. Fodd bynnag, awgryma rhai ysgolheigion, o astudiaeth o'r brif lawysgrif o'r De Excidio Britanniae, "British Library, Cotton Vitellius A.vi", fod Gildas mewn gwirionedd yn priodoli'r fuddugoliaeth i Ambrosius Aurelianus (Emrys Wledig).[1]

Y Cymro Nennius oedd y cyntaf i gysylltu Arthur â'r frwydr fawr ym Mynydd Baddon yn ei lyfr Historia Brittonum ac mae'n cyfeirio at nifer o frwydrau eraill yn ogystal, gan gynnwys Brwydr Camlan pryd yr honnir i Arthur gael ei ladd trwy dwyll.

Ceir cofnod yn yr Annales Cambriae am y flwyddyn 516 am Frwydr Baddon, lle dywedir fod Arthur a'i wŷr wedi ymladd am dri dydd gydag Arthur yn dwyn Croes Crist (ar ei darian efallai) ac wedi ennill buddugoliaeth ysgubol:

Bellum Badonis in quo Arthur portuait crucem Domini nostri Iesu Christi tribus diebus et tribus noctibus in humeros suos et Brittones uictores fuerunt.[2]

Dan y flwyddyn 537, ceir cofnod yn yr Annales Cambriae am farwolaeth Arthur:

Gueith camlann in qua Arthur eroxt Medraut corruerunt.
("Brwydr Camlan, yn yr hon y bu farw Arthur a Medrawd")

Credir mai ychwanegiadau gweddol ddiweddar, efallai o'r 9g, yw'r cyfeiriadau yma, ac nid cofnodion o'r 6g ei hun.

 
Croes o fedd gwreiddiol honedig Arthur

Yn 1191, cyhoeddwyd fod mynachod Abaty Glastonbury, wrth ail-adeiladu rhan o'r abaty yn dilyn tân yn 1184, wedi cael hyd i fedd gyda thair arch ynddo. Ar un arch roedd croes o blwm gyda'r arysgrif  :

HIC JACET SEPULTUS INCLITUS REX ARTURIUS IN INSULA AVALONIA
"Yma'r gorwedd yr enwog frenin Arthur yn Ynys Afallon".

Yn yr arch roedd gweddillion gŵr 2.40 medr o daldra. Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion yw mai twyll oedd hyn. Gallai fod yn gynllun ar ran y mynaich wedi ei fwriadu i ddenu ymwelwyr cyfoethog i'r abaty, ond gallai hefyd fod a diben gwleidyddol iddo; i geisio perswadio'r Cymry na allai Arthur ddychwelyd i'w cynorthwyo.

Cynigion hanesyddol

golygu
 
Maen Huail, y garreg ble y credir i'r Brenin Arthur ddienyddio Huain, brawd Gildas

Ysgrifennwyd nifer fawr o lyfrau i geisio profi fod Arthur yn gymeriad hanesyddol, ac mae nifer o ysgolheigion wedi awgrymu cymeriadau hanesyddol allai fod yn sail i'r hanesion am Arthur. Er enghraifft, awgrymodd Kemp Malone yn 1924 y gallai Arthur fod wedi ei seilio ar y cadfridog Rhufeinig Lucius Artorius Castus (fl. 2g) a wasanaethodd ym Mhrydain. Awgrymodd Geoffrey Ashe mai brenin Brythonig o'r 5g o'r enw Riothamus oedd yr Arthur gwreiddiol.

Mae rhai ymchwilwyr poblogaidd diweddar yn ceisio uniaethu Athrwys ap Meurig, brenin cynnar neu dywysog o deyrnas Gwent yn hanner cyntaf y 7g ag Arthur. Awgrymwyd y cysylltiad gan yr hynafiaethwr lleol David Williams mor gynnar â 1796, yn ei gyfrol The History of Monmouthshire, ar sail y ffurf (anghywir) Arthwys ar enw Athrwys a chysylltiadau Gwent â'r Brenin Arthur chwedlonol. Ond ceir sawl dadl hanesyddol ac ieithyddol dros wrthod uniaethu Athrwys/Arthwys ag Arthur.

Ffuglen?

golygu

Am ganrifoedd lawer, ystyrid fod cyfrol Sieffre o Fynwy, yr Historia Regum Britanniae ("Hanes Brenhinoedd Prydain") a ymddangosodd ar ddechrau 1136, yn hanes dibynadwy. Dywed Sieffre ei hun ei fod wedi defnyddio hen lyfr Cymraeg fel ffynhonnell, ond y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion bellach yw mai Sieffre ei hun a ddyfeisiodd lawer o'i ddeunydd.

Ar y llaw arall, cred rhai ysgolheigion mai cymeriad mytholegol ydoedd, efallai duw Celtaidd wedi ei droi yn berson yn yr un modd a chymeriadau megis Lleu Llaw Gyffes. Esiampl o hyn o'r cyfnod yma yw Hengist a Hors, arweinwyr y Sacsoniad cyntaf i ddod i Brydain yn ôl yr hanes traddodiadol; ond mae haneswyr yn awr yn cytuno mai cymeriadau mytholegol ydynt. Awgryma Thomas Green ar sail y cyfeiriadau at Arthur yn llenyddiaeth gynnar Cymru mai rhyw fath o dduw gwarcheidiol ydoedd. Ei farn ef oedd bod Arthur ymysg y Brythoniaid yn cyflawni'r un swyddogaeth yn wreiddiol a Fionn mac Cumhaill ymysg y Gwyddelod, yn gwarchod Ynys Brydain fel yr oedd Fionn yn gwarchod ynys Iwerddon.

Arthur y Cymry

golygu
 
Llawysgrif Llyfr Aneirin; yn y Gododdin y ceir y cyfeiriad cynharaf at Arthur, o bosib.
 
Y Brenin Arthur, llun o Lawysgrif Cymraeg

Ceir cyfeiriadau at Arthur mewn nifer o gerddi Cymraeg, yn cynnwys Y Gododdin, efallai o ddechrau'r 7g, a Marwnad Cynddylan, efallai o ganol y 7g. Yn y ddwy gerdd, cyfeirir at Arthur fel esiampl o ryfelwr digymar, er nad yw'n glir a yw'r cyfeiriadau ar berson hanesyddol ynteu fytholegol. Dylid nodi fod penillion wedi eu hychwanegu at Y Gododdin yn ddiweddarach, ac y gallai'r cyfeiriad yma fod yn un, a bod Jenny Rowlands yn credu y dylid darllen "Arthur fras" yn Marwnad Cynddylan fel "arddyrnfras".

Ceir cerddi sy'n delio yn uniongyrchol ag Arthur ychydig yn ddiweddarach, yn enwedig Preiddiau Annwn yn Llyfr Taliesin, cerdd sy'n cael ei dyddio i tua'r flwyddyn 900, a Pa Gwr yw y Porthawr yn Llyfr Du Caerfyrddin, sy'n dyddio o tua'r 10g. Cerdd a geir yn Llyfr Taliesin yw Preiddiau Annwn, neu yn yr orgraff wreiddiol Preiddeu Annwfn. Cerdd weddol fer ydyw, ac nid yw'r ystyr ymhobman yn hollol sicr, ond mae'n adrodd hanes ymgyrch gan Arthur a'i wŷr i Annwfn i gyrchu pair. Gellir casglu o'r gerdd ei hun mai Taliesin sy'n siarad ynddi. Dywed ei fod wedi cael ei ddawn fel bardd o bair hud. Dywed iddo deithio i Annwfn gydag Arthur yn llong Arthur, Prydwen. Aeth tair llongaid o'i wŷr i Annwfn, ond dim ond saith gŵr a ddychwelodd. Disgrifir pair brenin Annwn, na wnaiff ferwi bwyd i lwfrddyn. Nid oes eglurhad beth ddigwyddodd fel mai dim ond saith o'r cwmni a ddychwelodd.

Dechreua'r gerdd Pa Gwr yw y Porthawr gyda'r cwestiwn yma, yna ateba'r porthor mai Glewlwyd Gafaelfawr ydyw. Hola yntau yn ei dro pwy sy'n gofyn, a chaiff ar ateb mai Arthur a Cei sydd yno. Ymddengys eu bod yn dymuno cael mynediad i gaer sy'n cael ei chadw gan Glewlwyd. Hola Glewlwyd pwy sydd gyda hwy, ac aiff Arthur ymlaen i ganmol gwrhydri ei ŵyr, yn enwedig Cei a Bedwyr. Ymhlith gorchestion Cei, dywedir iddo ladd cath enfawr, Cath Palug. Dywedir i Bedwyr ladd cannoedd ym mrwydr Tryfrwyd. Ymhlith eraill, enwir Manawydan fab Llŷr a Mabon fab Modron; dywedir bod Mabon yn was i Uthr Bendragon.

Ceir cyfeiriad at Arthur yn Englynion y Beddau, casgliad o englynion sy'n ymwneud â lleoliad beddau hen arwyr Cymreig, efallai yn dyddio o'r nawfed neu'r ddegfed ganrif:

Bedd i March, bedd i Gwythur;
Bedd i Gwgawn Gleddyfrudd;
Anoeth byd bedd i Arthur.

Ceir yr awgrym yma na ellir lleoli bedd Arthur, efallai am nad yw wedi marw; ymddengys Arthur mewn proffwydoliaethau am y Mab Darogan a fydd yn dychwelyd ryw ddydd.

 
Culhwch yn cyrraedd llys Arthur i ofyn cymorth.

Yn chwedl Culhwch ac Olwen, sy'n dyddio oddeutu 10801100, mae Culhwch yn ceisio ennill llaw Olwen ferch y cawr Ysbaddaden Bencawr. Am fod ei lysfam wedi tynghedu na chaiff briodi neb ond Olwen – y forwyn decaf erioed – mae Culhwch yn teithio i lys ei gefnder Arthur i gael ei gymorth a'i gyngor. Mae Arthur a'i wŷr, gan gynnwys Cai a Bedwyr, yn penderfynu mynd gyda Chulhwch i lys Ysbaddaden i'w gynorthwyo. Mae'r cawr yn cytuno i roi Olwen i Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgau (anoethau) anodd os nad amhosibl. Cyflawnir y tasgau gan wŷr Arthur. Nid yw ef ei hun yn cymryd llawer o ran yn y gwaith o gyflawni'r tasgau, ac eithrio lladd y Widdon Orddu a'i gyllell Carnwennan. Yn un lle mae ei wŷr yn ei gynghori i ddychwelyd adref yn hytrach na chymryd rhan mewn tasgau mor ddibwys.

Ni ddisgrifir pob un o'r ddeugain antur yn y ffurf ar y chwedl sydd gennym ni heddiw, ond o blith y rhai a ddisgrifir mae ceisio Fabon fab Modron a hela'r Twrch Trwyth yn haeddiannol enwog. Mae'r chwedl yn gorffen gyda marwolaeth Ysbaddaden a phriodas Culhwch ac Olwen. Ymddengys Glewlwyd Gafaelfawr yn y chwedl, ond y tro hwn fel porthor Arthur ei hun.

 
Golygfa o Freuddwyd Rhonabwy: Owain yn codi ei ystondardd gyda'i frain yn ymladd marchogion Arthur.

Chwedl Gymraeg ddiweddarach sy'n perthyn i Gylch Arthur yw Breuddwyd Rhonabwy. Mae ysgolheigion wedi cynnig dyddiadau ar gyfer cyfansoddi'r chwedl yma yn ymestyn o ganol y 12g hyd at ddiwedd y 13g. Yn ei freuddwyd, caiff Rhonabwy ei ddwyn i lys Arthur, lle mae Arthur ac Owain ab Urien yn chwarae gwyddbwyll, tra mae marchogion Arthur a brain Owain yn ymladd. Ceir elfen gref o ddychan yn y chwedl hon, ond mae'n amlwg yn perthyn i'r traddodiad Cymreig yn hytrach na'r rhamantau, er gwaethaf ei dyddiad cymharol ddiweddar.

Cyfeirir at wraig Arthur, Gwenhwyfar ferch Gogfran Gawr, mewn nifer o gerddi a chwedlau, a cheir cyfeiriadau hefyd at nifer o feibion i Arthur. Yr un y ceir sôn amdano amlaf yw Llacheu, ond ceir hefyd gyfeiriadau at fab o'r enw Amr.[3] Cysylltir rhai cymeriadau eraill, yn enwedig Cai a Bedwyr, ag Arthur mewn nifer o wahanol gerddi a chwedlau hefyd. Ceir cyfeiriadau at nifer o bethau oedd yn eiddo iddo, megis ei gleddyf Caledfwlch, ei long Prydwen a'i ddagr Carnwennan. Tynnwyd sylw at yr elfen wen yn y ddau olaf, ynghyd â nifer o bethau eraill a gysylltir ag Arthur, a allai gyfeirio at y ffaith ei bod yn "sanctaidd" (h.y. yn arallfydol).

Tynnodd rhai ysgolheigion sylw at y ffaith nad yw Arthur yn ymddangos yn y traddodiad Cymraeg fel ymladdwr yn erbyn y Sacsoniaid, fel y mae yng ngwaith Nennius a Sieffre o Fynwy. Yn hytrach mae'n ymladd a chymeriadau goruwchnaturiol o wahanol fathau, ac yn teithio i Annwfn.

Llên gwerin

golygu

Ceir llawer o chwedlau gwerin yn ymwneud ag Arthur yng Nghymru. Un ardal lle ceir y rhain yw o gwmpas Yr Wyddfa. Dywedir i Rhita Gawr, oedd a mantell wedi ei gwneud o farfau brenhinoedd, hawlio barf Arthur. Gwrthododd Arthur, a bu ymladdfa rhyngddynt ar yr Wyddfa. Lladdwyd Rhita, a chladdwyd ef dan garnedd ar y copa gan filwyr Arthur, gan roi ei enw i'r mynydd.

Yn ôl chwedl arall, ar yr Wyddfa yr ymladdodd Arthur ei frwydr olaf; bu farw o'i glwyfau a chladdwyd ef ger Bwlch y Saethau, rhwng copa'r Wyddfa a'r Lliwedd. Dywedir fod ei filwyr yn cysgu yn Ogof Arthur mewn clogwyn ar y Lliwedd. Ceir nifer o chwedlau fel hyn am Arthur yn cysgu mewn ogof, hyd y dydd y bydd yn deffro i achub Cymru. Mae hyn yn esiampl o thema ryngwladol y Brenin yn y mynydd.

Arthur a gwleidyddiaeth

golygu

Yng Nghymru, roedd cred gref fod Arthur a'i ryfelwyr yn cysgu mewn ogof rywle yn aros am yr amser i ddeffro ac arwain ei bobl i fuddugoliaeth derfynol dros eu gelynion. Diweddarach yw'r chwedl am Ynys Afallon, sy'n deillio o waith Sieffre o Fynwy. Er enghraifft, yn ystod y gwrthryfel Cymreig yn erbyn y Normaniaid ar ddiwedd y 11eg a dechrau'r 12g, adroddwyd fod y Cymry'n credu y byddai Arthur yn dychwelyd ac yn eu cynorthwyo i yrru'n Normaniaid o'r wlad yn llwyr.

Yn ddiweddarach, rhoddodd Harri VII, brenin Lloegr yr enw Arthur i'w fab hynaf, a aned yn 1486, y flwyddyn ar ôl Brwydr Bosworth. Efallai fod hyn wedi ei fwriadu yn rhannol fel dull o sicrhau parhad cefnogaeth y Cymry iddo. Y bwriad oedd y byddai Arthur yn teyrnasu fel y brenin Arthur II pan ddôi i'r orsedd. Fodd bynnag, bu farw yn gynamserol yn 1502, a'i frawd iau, Harri, a ddaeth yn frenin fel Harri VIII.

Yn ystod teyrnasiad Elisabeth I, defnyddiwyd yr hanesion am Arthur i bwrpas gwleidyddol gan John Dee. O dras Gymreig ei hun, defnyddiodd ymgyrchoedd Arthur fel sail i hawl coron Lloegr ar y tiriogaethau newydd oedd wedi eu darganfod yn ystod y 16g. Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r ymadrodd "yr Ymerodraeth Brydeinig", gan ei gweld fel olynydd i ymerodraeth Arthur.[4]

Erbyn hyn, fodd bynnag, roedd y diddordeb yn Arthur yn dechrau edwino. Yn 1534, roedd yr hanesydd Eidalaidd Polydore Vergil wedi datgan nad oedd gwaith Sieffre o Fynwy yn wir hanes. Ar y pryd, bu gwrthwynebiad cryf i'w sylwadau gan ysgolheigion yn cynnwys Humphrey Lhuyd a John Leland, ond yn raddol daethpwyd i'w derbyn.[5]

Arthur y Rhamantau

golygu
 
Y Brenin Arthur

Rhoddwyd gwedd newydd ar Arthur gan Sieffre o Fynwy yn ei gyfrol Historia Regum Britanniae ("Hanes Brenhinoedd Prydain") a ymddangosodd yn nechrau 1136. Sieffre yn anad neb fu'n gyfrifol am greu'r ddelwedd o'r Brenin Arthur fel brenin ar batrwm y Canol Oesoedd gyda phrifddinas yng Nghaerllion-ar-Wysg ac wedi ei amgylchu gan farchogion oedd yn batrwm o sifalri. Sieffre hefyd oedd y cyntaf i gysylltu'r dewin Myrddin a hanes Arthur; yn y traddodiad Cymraeg nid oes cysylltiad rhyngddynt.

Yn fersiwn Sieffre, syrth Uthr Bendragon, brenin Ynys Brydain, mewn cariad ag Eigr (Igraine), gwraig Gorlois, Dug Cernyw. Caiff Uthr gymorth y dewin Myrddin, sy'n newid ei ffurf fel bod Eigr yn meddwl mai ei gŵr ydyw. Mae Uthr yn cysgu gydag Eigr yng Nghastell Tintagel, a chenhedlir Arthur. Lleddir Gorlois yr un noson, ac mae Uthr yn priodi Eigr. Yn nes ymlaen, gwenwynir Uthr, ac mae Arthur yn ei ddilyn ar yr orsedd.

Geilw'r ymerawdwr Lucius Tiberius ar Brydain i dalu teyrnged i Rufain unwaith eto. Mae Arthur yn gorchfygu Lucius yng Ngâl, ond yn y cyfamser mae nai Arthur, Medrawd, yn cipio gorsedd Prydain. Dychwela Arthur a lladd Medrawd ym mrwydr Camlan, ond fe'i clwyfir yn angheuol ei hun ac mae'n cael ei gludo i Ynys Afallach ac yn trosglwyddo’r deyrnas i'w nai Cystennin.

Daeth gweithiau'r llenor Ffrengig Chrétien de Troyes (tua 1135 – tua 1183) am y brenin Arthur a'i farchogion yn eithriadol o boblogaidd, er enghraifft Lancelot ou le Chevalier de la charrette. Mae'n debyg iddo gael llawer o'i ddeunydd o'r traddodiad Celtaidd. Mae Érec et Énide, Yvain ou le Chevalier au Lion a Perceval ou le Conte du Graal yn cyfateb i'r tair stori yn Y Tair Rhamant yn Gymraeg: Geraint ac Enid, Iarlles y Ffynnon a Peredur fab Efrawg. Nid oes sicrwydd a yw'r storïau Cymraeg yn addasiad o weithiau Chrétien ynteu yn weithiau annibynnol yn defnyddio'r un deunydd. Yn Perceval, ou le Conte du Graal, sy'n dyddio rhwng 1180 a 1191, y ceir y sôn cyntaf am y Greal Santaidd, sy'n ddiweddarach yn dod yn elfen bwysig yn y chwedlau Arthuraidd.

Tua dechrau'r 13g, ymddangosodd y Lawnslot-Greal (Ffrangeg: Lancelot-Graal), cyfres o chwedlau am y brenin Arthur yn Ffrangeg a adnabyddir hefyd fel y ' Lawnslot rhyddiaith:, y Fwlgat, neu'r Cycle du Pseudo-Map. Ni wyddys pwy oedd yr awdur. Mae'n ymdrin â'r ymchwil am y Greal Santaidd a hanes y garwriaeth rhwng y frenhines Gwenhwyfar a Lawnslot. Yn y chwedlau yma, mae marchogion megis Lawnslot a Galahad, nad ydynt yn ymddangos yn y traddodiad Cymreig, yn dod yn gynyddol bwysig.

Erbyn y 15g, roedd y diddordeb yn y chwedlau Arthuraidd yn dechrau pallu yn Ffrainc, ond adfywiwyd y diddordeb yn Lloegr. Le Morte d'Arthur yw'r pwysicaf o'r fersiynau o'r chwedlau am y brenin Arthur yn y traddodiad Seisnig. Mae'n gasgliad o ddeunydd Ffrengig a Seisnig am Arthur gan Syr Thomas Malory (c. 1405–1471), wedi eu hail-adrodd yn ôl syniadau Malory ei hun, ac yn cynnwys rhywfaint o waith gwreiddiol Malory ei hun yn stori Gareth. Argraffwyd y llyfr am y tro cyntaf yn 1485 gan William Caxton, a daeth yn eithriadol o boblogaidd.

Arthur yn y cyfnod modern

golygu
 
T. Gwynn Jones, awdur Ymadawiad Arthur.

Bu diddordeb newydd yn Arthur o ail hanner yr 20g. Yn Saesneg, cyhoeddodd Alfred, Arglwydd Tennyson ei gylch o gerddi The Idylls of the King rhwng 1856 a 1885. Roedd y cylch yma'n gyfres o ddeuddeg cerdd naratif ar bynciau Arthuraidd, a chafodd ddylanwad mawr. Yn yr Almaen, cyfansoddodd Richard Wagner ddwy opera ar destunau Arthuraidd, Tristan und Isolde (1865) a Parsifal (1882). Yn yr Unol Daleithiau, ysgrifennodd Mark Twain ei nofel ddychanol A Connecticut Yankee in King Arthur's Court yn 1889.

Yn Gymraeg, enillodd T. Gwynn Jones gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902 am ei awdl Ymadawiad Arthur. Bu'r gerdd yma hefyd yn ddylanwadol iawn; fe'i cyhoeddwyd yn llyfr yn 1910 dan y teitl Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill. Yn yr un Eisteddfod, enillodd Robert Roberts (Silyn) y goron am ei gerdd Trystan ac Esyllt.

Yn y ffilm Ymadawiad Arthur (1994), mae grŵp o Gymry yn y flwyddyn 2096 yn ceisio cipio Arthur o'r Canol Oesoedd i'r presennol. Yn anffodus, maent yn cipio'r arwr rygbi Dai Arthur (llysenw "Y Brenin Arthur") o'r 1960au yn ei le.

Nodiadau

golygu
  1. Thomas Green (2008) Concepts of Arthur tt. 31-21
  2. Dyfynnir yn The Arthur of the Welsh (Caerdydd, 1991), tud. 26.
  3. Green Concepts of Arthur tt. 168-9
  4. Williams Excalibur tt. 177-184
  5. Williams Excalibur tt. 176-7

Llyfryddiaeth ddethol

golygu

Ceir rhai degau o filoedd o gyfrolau ac erthyglau am Arthur. Detholiad yn unig a geir yma, gyda'r pwyslais ar Gymru.

Llyfrau

golygu
  • W. R. J. Barron, The Arthur of the English (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2001).
  • Philip C. Boardman a Daniel P. Nastali, The Arthurian Annals (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2004).
  • Rachel Bromwich, A. O. H. Jarman, a Brynley F. Roberts (gol.), The Arthur of the Welsh (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1991).
  • E. K. Chambers, Arthur of Britain (Caergrawnt: Speculum Historiale, 1964).
  • J. B. Coe ac S. Young. The Celtic Sources for the Arthurian Legend (Felinfach: Llanerch, 1995).
  • Siân Echard (gol.), The Arthur of Medieval Latin Literature (Caerdydd: Gwasg Prifysol Cymru, 2011).
  • Helen Fulton (gol.), A Companion to Arthurian Literature (Rhydychen: Blackwell, 2009).
  • Thomas Green, Concepts of Arthur (Stroud: Tempus, 2007). ISBN 978-0-7524-4461-1
  • Linda M. Gowens, Cei and the Arthurian Legend (Caergrawnt: D. S. Brewer, 1988).
  • N. J. Hingham, King Arthur: Myth-making and History (Llundain: Routledge, 2002).
  • Bedwyr Lewis Jones, Arthur y Cymry / The Welsh Arthur (Caerdydd, 1975). Cyfres ddwyieithog Gŵyl Dewi.
  • R. S. Loomis, Wales and the Arthurian Legend (Caerdydd, 1956)
  • O. J. Padel, Arthur in Medieval Welsh Literature (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2013).
  • Gwyn A. Williams, Excalibur: the search for Arthur (Llyfrau'r BBC, 1994) ISBN 0-563-37020-3

Erthyglau

golygu
  • Constance Bullock-Davies, 'Exspectare Arturum: Arthur and the Messianic hope', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 29 (1980–1), tt. 432–40.
  • J. H. Davies, 'A Welsh version of the birth of Arthur', Y Cymmrodor 24 (1913), tt. 247–64.
  • D. Edel, 'The Arthur of Culhwch ac Olwen as a figure of epic-heroic tradition', Reading Medieval Studies 9 (1983), tt. 3–15.
  • P. K. Ford, 'On the significance of some Arthurian names in Welsh', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 30 (1983), tt. 268–73.
  • Evan D. Jones, 'Melwas, Gwenhwyfar, a Chai', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 8 (1935–7), tt. 203–8.
  • Thomas Jones, 'Datblygiadau cynnar chwedl Arthur', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 17 (1956–8), tt. 235–52.
  • O. J. Padel, 'The nature of Arthur', Cambrian Medieval Celtic Studies 27 (haf 1994), tt. 1–31.
  • Melville Richards, 'Arthurian onomastics', Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion 1969, tt. 250–64.

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu