Cacen pen-blwydd
Cacen sy'n cael ei bwyta fel rhan o ddathliad pen-blwydd yw cacen pen-blwydd (hefyd teisen pen-blwydd). Mae'n arferiad sy'n bodoli mewn nifer o draddodiadau o amgylch y byd. Mae amrywiadau ar y gacen pen-blwydd nodweddiadol yn cynnwys teisennau cwpan pen-blwydd, cacennau pop, crwst a thartenni. Er nad oes safon gyffredinol o ran blas, mae cacennau pen-blwydd yn aml â blas fanila, siocled, neu fefus. Maent hefyd yn cael eu pobi mewn amrywiaeth o siapiau a'u haddurno mewn un neu nifer o liwiau gydag eisin neu ffondant.
Enghraifft o'r canlynol | pryd o fwyd |
---|---|
Math | torte |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae cacennau wedi bod yn rhan o ddathliadau pen-blwydd gwledydd Gorllewin Ewrop ers canol y 19g.[1] Fodd bynnag, mae'n bosib bod y cysylltiad rhwng cacennau a dathliadau pen-blwydd yn dyddio'n ôl i oes y Rhufeiniaid.
Yn niwylliant Rhufain hynafol, roedd 'cacennau' yn cael eu gweini o bryd i'w gilydd ar benblwyddi arbennig ac mewn priodasau. Roedd y rhain yn gylchoedd gwastad wedi'u gwneud o flawd a chnau, wedi'u lefeinio â burum, a'u melysu â mêl.
Yn y 15g, dechreuodd poptai yn yr Almaen farchnata cacennau un haen ar gyfer penblwyddi cwsmeriaid yn hytrach na marchnata cacennau ar gyfer priodasau yn unig, ac felly ganwyd y gacen ben-blwydd fodern.
Yn ystod yr 17g, cymerodd y gacen pen-blwydd ei ffurf gyfoes. Roedd gan y teisennau cywrain hyn o'r 17g nifer o nodweddion y gacen pen-blwydd cyfoes, fel haenau lluosog, eisin ac addurniadau. Fodd bynnag, dim ond i'r cyfoethog iawn yr oedd y cacennau hyn ar gael. Daeth cacennau pen-blwydd yn hygyrch i'r dosbarth gweithiol o ganlyniad i'r chwyldro diwydiannol a lledaeniad mwy o ddeunyddiau a nwyddau.
Mae'r gacen pen-blwydd yn aml yn cael ei haddurno â chanhwyllau bach sydd naill ai wedi'u gwasgu i mewn i'r gacen neu wedi'u gosod yn eu lle gan ddalwyr pwrpasol. Yng Nghymru a gwledydd eraill ynysoedd Prydain, Gogledd America ac Awstralia, mae nifer y canhwyllau yn aml yn hafal i oedran yr unigolyn sy'n cael eu pen-blwydd, weithiau gydag un yn ychwanegol am lwc. Mewn rhai gwledydd, mae'n arferiad i westeion ganu'r gân Pen-blwydd Hapus i Ti [2] unwaith y bydd y canhwyllau wedi'u cynnau, ac weithiau bydd y gacen yn cael ei chario i mewn i'r ystafell i gyfeiliant y gân.
Yn draddodiadol, bydd y person yn gwneud dymuniad, a credir ei fod yn dod yn wir os caiff yr holl ganhwyllau eu diffodd mewn un anadl.
Mae'r gacen yna'n cael ei thorri a darnau'n cael eu rhoi i'r holl westeion sy'n mynychu'r parti.