Torte
Mae'r gair Almaeneg Torte, a ddaw ei hunan o'r Eidaleg torta, yn cyfeirio at fara wedi'i bobi neu gacen grwn. Gan amlaf cânt eu gwneud allan o wyau, siwgr a chnau wedi'u malu yn hytrach na blawd. Weithiau llenwir y toes gyda hufen a / neu ffrwythau a chaiff ei addurno wedyn. Mae tortes nodweddiadol yn cynnwys y Torte Sacher a'r Torte Linzer o Awstria, cacen y Fforest Ddu o'r Almaen a gateau St. Honoré.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6b/Donauwelle_blech_hg.jpg/220px-Donauwelle_blech_hg.jpg)