Cad Goddeu

cerdd dienw o 14g

Cerdd Gymraeg ganoloesol a gadwyd yn y llawysgrif o'r 14g a elwir yn Llyfr Taliesin yw Cad Goddeu (Cymraeg Canol: Kat Godeu, Cymraeg modern: Brwydr y Coed). Mae'r gerdd yn cyfeirio at stori draddodiadol lle mae'r swynwr chwedlonol Gwydion yn animeiddio coed y goedwig i ymladd fel ei fyddin. Mae'r gerdd yn arbennig o nodedig am ei symbolaeth drawiadol ac enigmatig a'r amrywiaeth eang o ddehongliadau a gafwyd.

Cad Goddeu
Math o gyfrwngcerdd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg Canol Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi14 g Edit this on Wikidata
Prif bwncrhith Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Y gerdd

golygu

Ceir 248 o linellau byr o hyd, sydd fel arfer yn bum sillaf a saib, mewn sawl adran. Mae’r gerdd yn dechrau gyda honiad estynedig o wybodaeth uniongyrchol o bob peth, mewn modd a geir yn hwyrach yn y gerdd a hefyd mewn sawl lle arall a briodolir i Daliesin;

Bum cledyf yn aghat
Bum yscwyt yg kat
Bum tant yn telyn.

Cleddyf yn llaw oeddwn i
Tarian ym mrwydr oeddwn i
Tant ar delyn oeddwn i

gan orffen gyda'r honiad ei fod wedi bod yng "Nghaer Vevenir" pan frwydrodd Arglwydd Prydain. Dilynir hanes bwystfil gwrthun mawr, o ofn y Brythoniaid a sut, trwy gyfaredd Gwydion a gras Duw, y gorymdeithiodd y coed i frwydr: yna dilynir rhestr o blanhigion, pob un â rhai priodoledd rhagorol, yn awr yn addas, yn awr aneglur;

Gwern blaen llin,
A want gysseuin
Helyc a cherdin
Buant hwyr yr vydin.

Y Wernen yn y rheng flaen,
ffurfiwyd y flaengad
Yr Helygen a'r Gerdinen
a oedd yn hwyr i'r frwydr.

Yna mae'r gerdd yn torri i mewn i hanes person cyntaf am enedigaeth y forwyn â wyneb blodau, Blodeuwedd, ac yna hanes un arall, rhyfelwr mawr, fu unwaith yn fugail, sydd bellach yn deithiwr hyddysg, efallai Arthur neu Daliesin ei hun. Wedi ailadrodd cyfeiriad cynharach at y Dilyw, y Croeshoeliad a dydd y farn, daw'r gerdd i ben gyda chyfeiriad aneglur at waith metel.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu