Cadair Fronwen

mynydd (783.4m) yn Sir Ddinbych
(Ailgyfeiriad o Cadair Bronwen)

Un o gopaon cadwyn Y Berwyn yw Cadair Fronwen (hefyd Cadair Bronwen, Cader Fronwen), gydag uchder o 784 metr (2572 troedfedd).

Cadair Fronwen
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Berwyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr783 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.90146°N 3.3729°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ0775434665 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd73.3 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaCadair Berwyn Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddY Berwyn Edit this on Wikidata
Map

Lleoliad golygu

Mae'n gorwedd rhwng Cadair Berwyn i'r de a Moel Fferna i'r gogledd, ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a bwrdeisdref sirol Wrecsam; cyfeiriad grid SJ077346.

Ceir crug crwn ar y copa, gyda charnedd fodern yn ei ganol. Mae crug Cadair Bronwen yn 23 metr mewn diamedr ac yn ddwy fetr o uchder.

Uchder golygu

Uchder y copa o lefel y môr ydy 785m (2575tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 712metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1]

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu