Crug crwn

Gweler hefyd: rhestr o grugiau crynion yng Nghymru

Pentwr o bridd wedi'i osod gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremoniau neu i gladdu'r meirw ydy crug crwn (enw gwrywaidd; Saesneg: round barrow). "Bryncyn" neu "bentwr" ydy prif ystyron y gair Cymraeg 'crug', sy'n elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru. Cruc ydy'r gair yn yr Hen Gernyweg a'r Hen Lydaweg a cruach yn yr Hen Wyddeleg. Mae'r gair i'w gael o fewn rhai ffurfiau Lladin ar hen enwau lleoedd Brythoneg megis Pennocrucium, sef Penkridge heddiw ac fe'i benthycir yn y Saesneg fel "crick" fel yn y gair "Crick-howell". Y lluosog ydy: crugiau crwn neu crugiau crynion.

Crug ar gopa Moel Gyw (Bryniau Clwyd.

Mae'r garnedd gron yn wahanol i grug crwn. Cerrig yn unig yw carnedd - treuliwyd y pridd gan amser.

Pan fo siambr neu gell o fewn y crug i ddal y corff yna gelwir y crug yn siambr gladdu. Pan fo'r glaw a'r gwynt wedi'i herydu yna caiff ei disgrifio fel carnedd. Yng Nghainc Gyntaf y Mabinogi (testun Llyfr Gwyn Rhydderch, 14g) ceir hanes Pwyll yn gweld Rhiannon: "Ac yna... yn eistedd ar ben crug, y wreic teccaf or a welsei eiroet."[1]

Fe gychwynwyd eu codi tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 CC). Codwyd y rhan fwyaf, fodd bynnag yn y cyfnod 2400-1500 CC.[2]

Y crugiau crynion mwyafGolygu

O ran diamedrGolygu

O ran uchderGolygu

Gweler hefydGolygu

Mathau gwahanol o olion claddu:

CyfeiriadauGolygu

  1.  crug. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Ionawr 2021.
  2. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-10-27.
  3. "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-16. Cyrchwyd 2010-11-07.
  4. "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2010-11-06.

Dolennau allanolGolygu