Yr enw traddodiadol ar gynhwysydd i gadw cynilion o ddarnau arian yw cadw-mi-gei, a ddefnyddir gan amlaf gan blant. Yn aml gwneir cadw-mi-gei o geramig neu borslen o siâp mochyn, sydd yn tarddu o'r term Saesneg am y blwch, sef piggy bank (banc mochyn), ond gellir eu cael o bob lliw a llun. Cânt eu defnyddio i ddysgu cysyniadau am gynilo a gwario arian i blant. Yn draddodiadol, roedd yn hawdd i roi arian mewn trwy'r agen ar ben y cadw-mi-gei, ond byddai angen ei dorri i gael yr arian allan, ac felly'n gorfodi'r plentyn i gyfiawnhau ei benderfyniad. Ond y dyddiau hyn mae'n fwy tebygol bod caead ar waelod y cadw-mi-gei, er mwyn cymryd yr arian allan yn hawdd.

Cadw-mi-gei
Mathblwch arian Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Chwiliwch am gadw-mi-gei
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.